Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cotwm

cotwm

Rhaid defnyddio eli haul ffactor uchel, gwisgo het a dillad cotwm llac.

Yn Huntsville, Alabama, y gwelodd hen stadau'r meistri cotwm, y grym gwleidyddol ac ariannol y tu cefn i'r gwrthryfel.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Er nad oes unrhyw dystiolaeth fod cotwm naturiol yn well; yr wyf i o'r farn y bydd pobl yn reddfol yn teimlon well ynddyn nhw, meddai perchen y siop.

Un porffor, a gwythiennau sidanaidd yn aberu trwy'r cotwm.

Gyda'r arian fe lenwid howldiau'r llongau â baco, cotwm, siwgr a rwm a chludo'r rhain yn ôl i Lerpwl a phorthladdoedd Prydeinig eraill.

Tasgodd cudynnau o wallt gwinau hardd o'i phen, toddodd ei sbectol i ddangos pâr o lygaid sionc, esmwythodd ei chroen fel cotwm dan hetar, diflannodd y crychau, a daeth rhwy wytnwch newydd i'w chorff.