Clywyd pregethu huawdl, teimladol, miniog ac apelgar gan Biwritaiaid fel William Wroth, Walter Cradoc, Vavasor Powell a Stephen Hughes.
Ei daith ffurfiannol gyntaf oedd honno o'i henfro i Wrecsam, lle cafodd ei dro%edigaeth o dan bregethu Walter Cradoc: ei berthynas â Cradoc yw pwnc Pennod IV Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod.
Charles ac Oliver o weithiau Cradoc.
Yr un modd Walter Cradoc.
Sôn am y drafodaeth rhwng Duw a'r enaid y mae Cradoc a'i amcan yw dangos cryfder aruthrol y rhwymyn cariad rhwng yr enaid a Duw.
a chydnabod "if thou draw the Curtain, all is hell", sylw nesaf Cradoc yw "but there is nothing but love, even after sin, there is not one hard thought.." (td.
Yr un argyhoeddiad a barai i Cradoc fynnu fod y saint i gyd yn gyfartal â'i gilydd.
Cyhoeddai Cradoc fod gorthrymu'r tlodion yn un o'r pethau oedd yn cyffroi llid Duw yn union fel yr oedd Morgan Llwyd yn cyhoeddi barn ar eu gorthrymwyr, "Gwae chwi yr vchelwyr drwg ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ôl i ddestryw.
Yr oedd yn rhyfeddod i Cradoc fod neb mor ddrwg a ffôl â gwrthod y fath gynnig.
Gwir fod ei feiddgarwch ymadrodd yn nyddiau Caerdydd wedi peri i Laud ei ddisgrifio fel "bold, ignorant young fellow% ond, wrth gwrs, ni wyddai Cradoc ddim am y feirniadaeth ac ni newidiodd ei ddull.
Mynnai Cradoc na ddylai'r sawl oedd wedi ymuno yn y cyfamod dderbyn trefn eglwysig a oedd yn cynnwys rhai nad oeddent yn Gristionogion diledryw.
Rhybuddiodd Cradoc y Senedd ei hun i beidio ag ymddwyn felly.
Hynny yw, nid awgrymu pa mor fregus yw gorchudd gras y mae Cradoc, ond mor gryf ydyw - a chaniata/ u fod "gras" a "chariad" fel ei gilydd yn cynrychioli agwedd dosturiol Duw at ddyn yn ei ing.
Dyma sylfaen eciwmeniaeth efengylaidd Wroth, Cradoc, Llwyd, Henry Walter a'r gweddill ohonynt.
Drwg y gwaith hwn yw ei fod yn darnio llyfrau Cradoc ac yn eu hailddosbarthu mewn ffordd anesboniadwy.
Y rhaniad sylfaenol, meddai Cradoc, yw hwnnw rhwng saint a phechaduriaid, nid y rhaniadau rhwng Eglwyswyr, Presbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr.
Mae'n wir fod Morgan Llwyd gyda'r blynyddoedd wedi amodi ei Galfinyddiaeth sylfaenol mewn ffordd a oedd yn anghymeradwy gan Cradoc a Vavasor Powell ond ni wnaeth hynny ddim i liniaru ei sicrwydd mai trychineb anaele oedd tynged y sawl a wrthodai gredu'r neges.
Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.