Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crand

crand

yr un teimlad ag a gâi wrth fynd i siopa 'da Janet i waelod Heol Eglwys Fair, wrth syllu ar y lamp fawr ar ffurf bachgen du'n dal gole yn y caffe crand gwyn 'na, a phawb yn wyn yn y siope, a'r tegane a phopeth, a'r bobl yn y llyfre - ar wahân i'r goliwogs - Jolly Wogs ...

Doedd y Cymry yn yr ardal lle y cafodd hi ei magu ddim yn gwrthwynebu tai haf, ac roedd nifer go lew ohonyn nhw o gwmpas: rhai'n perthyn i enwau cyfarwydd megis Mackintosh, Dunlop, a Rowntree, teuluoedd a oedd yn berchenogion ar geir crand a chychod hwylio.

Bod yr ACs yn cael adeilad, crand, gwerth chweil, gennym ni ar ôl iddyn nhw ddangos eu bod nhw'n haeddu bod mewn un.

Swagrodd y tri trwy'r drysau gwydr crand fel pe baent yn cerdded i salwn yn y Wild West.

Ychwaneg o ystafelloedd crand i'r Brenin a'i deulu?

"Oes gen ti fap a Phren mesur?" "Oes, dacw fo." Roedd map crand iawn gan Lludd yn hongian ar y pared.

Prin oedd y celfi, dim ond y pethe sylfaenol, ond yn ffodus, roedd yn y ty gegin lawn gyda ffwrn split-level crand, a chypyrdde o'i chwmpas i gyd.

Y Car Concrid 'Un dydd mae gyrrwr lori cario concrid yn gyrru heibio ei gartref gyda llwyth pan sylwa ar gar crand - "sports car" yn y dreif.

Ac yr oedd yn Blas - gatiau crand a stepiau yn arwain at bileri Rhufeinig, ac oddi mewn i'r neuadd fawreddog paneli o luniau lliwgar ar y waliau.

Ddysgodd hi fawr iawn o Gymraeg yn Bodlondeb School for Girls (Dad wnaeth y gwaith da hwnnw, pan ddechreuon nhw garu) ond fe ddysgodd lawer o bethau eraill: Ffrangeg a lacro/ s a sut i ganu alto a siarad Saesneg crand.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Mae pawb yn meddwl ein bod ni'n aros mewn gwestai crand - mae hynny'n wir fel arfer, am fod angen adnoddau fel llinellau ffôn, ond yn fama mi benderfynon ni aros efo Cronfa Achub y Plant.

Mae'n wir i'm mam lwyddo i roi enw 'crand' i'm brawd a aned dair blynedd o'm blaen, a chofiaf iddi ddweud wrthyf beth oedd yr enw hwnnw.

Cytiau pren â tho sinc oedd y rhan fwyaf o'r tai ond, brin filltir i ffwrdd, roedd plasdai crand aelodau'r Llywodraeth.

Gwn i'm mam gynnig enw 'crand' ar ei mab a gwn ei bod wedi bwriadu rhoi'r enw Merlin imi gydag enw anghyffredin arall.

Ond beth mae'r ffigurau crand yn ei ddweud mewn gwirionedd?

Penderfynodd ddysgu gwers iddynt, a dyma bagio'r lori i'r dreif a thywallt saith tunnell o goncrid drwy'r to meddal i'r car crand!

Yn y Gymraeg mae hyn yn cael ei gyfieithun Prif Weinidog y Cynulliad gyda Mike German yn Dirprwy Prif Weinidog y Cynulliad sydd dipyn yn fwy crand ac arwyddocaol nar fersiwn Saesneg.

Cyn iddo gael ei flasu o ddifrif, camodd clamp o gawr crand ato a holi ei fusnes yno.

O'r diwedd wedi hir ddisgwyl, dyma gerbyd mawr crand yn gyrru at yr ysgol a dyn â chap pig wrth y llyw.

Yng ngolau'r ffaglen gwelais y sewin crand.

Clamp o adeilad crand yn neuadddau mawreddog i gyd gyda phob math o chwaraeon, restaurant neu ddau, dau neu dri o farau a pharc moduron i gymryd y gweddill o'r tir.

Ymadrodd crand ydi o am fwy nag un person yn rhannur un ddesg.

Cloriannu'r gyllideb; fedrwch chi ddim gwneud pethau crand efo ceiniog a dimai, mae'n rhaid i chi wneud pethau diymhongar - ond da.