Gallai aros gartre i ddarllen llyfr neu roi help llaw i halio cratiau cwrw.
Wrth gwrs mae posib cymhwyso pob system bonws i gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth; a dydw i ddim yn cael trafferth o gwbwl dygymod a'r syniad o dalu i athrawon am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni - cyn belled bod y drefn yn medru mesur yn gywir werth eu gwaith a chymryd i ystyriaeth y cratiau mawr, anhwylus.
Yr hyn yr ydw i yn amheus iawn ohono yw'r athrawon hynny sy'n gwrthwynebu'r syniad yn ddiamod achos mae gen i ofn mai cuddio yn y tai bach y byddan nhw pan fyddwch chi'n chwilio am help i symud cratiau Rover.