Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

creadigaeth

creadigaeth

Dyna lle'r oedd Phil, fel Gamaliel yn ein plith, yn trin pwnc creadigaeth.

Rhaid derbyn profiad neilltuol yr unigolyn yn fan cychwyn creadigaeth artistig .

Dyna paham mai creadigaeth pechod a man geni heresi ydi pob tre.' Ni allai Ieuan Ddu lai na dyfalu be oedd gan hwn i'w wneud â llosgi eglwys Dolbenmaen, ond roedd ei lygaid yn goch gan flinder a'i goesau'n gwanio oddi tano.

Creadigaeth Cymru Gymraeg yw hi, yr unig sumbol sy'n aros o undod hanesyddol cenedl y Cymry, yr unig muthos Cymreig.

Gellir dweud, gyda thafod mewn boch, mai Dr Frankenstein oedd y cyntaf i ddod â deallusrwydd 'artiffisial' i rywbeth difywyd - ond creadigaeth ffug dychymyg Mary Shelley oedd hwnnw.

Ond creadigaeth fodern yw categori 'y tair rhamant' oherwydd nid oes tystiolaeth fod copi%wyr, nac, mae'n debyg, ddarllenwyr, y gweithiau hyn yn eu gweld yn hanfodol gysylltiedig â'i gilydd.

Yn swyddogol, awr o ddiffyg peirianyddol oedd yr awr honno, ond y peth a erys yn y cof yw bod cwmni o wŷr y felin yn trafod cwestiwn creadigaeth, a Phil yn rhoi arweiniad i'r drafodaeth.