A bu gan Dr Gwynfor Evans ei hunan gyfraniad creadigol eithriadol i'r stori.
Castell Nedd oedd y tîm mwya creadigol a bywiog.
Mae cynifer o chwaraewyr creadigol fel Rui Costa, Figo a Gomes ganddyn nhw.
Gellir ailadrodd brawddeg o ragair Brad sy'n dweud 'nad hanes yw drama hanes eithr gwaith creadigol; dychmygol yn y pen draw yw'r holl gymeriadau.'
A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.
Does neb creadigol yn nhîm Lloegr a maen nhw'n rhoir bêl i ffwrdd yn rhy hawdd oherwydd tempo a steil eu chware.
Dangosaist artistri dy Air creadigol ym mhatrymau'r barrug ac yn rhyfeddod y bluen eira.
Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.
Cyn bo hir mi fyddwch chi'n awyddus i hyrwyddo talentau creadigol pobl eraill.
Bellach fe'm hystyrid ganddo yn wrthwynebwr cyfysgwydd, ac yn un a haeddai ei regfeydd mwyaf creadigol.
Mae gan Shelley frawddeg yn defnyddio trosiad i ddisrgifio'r meddwl creadigol, ac fe all ei bod yn taflu goleuni ar feddwl creadigol Waldo : "The mind in creation is a fading coal, which some invisible influence like an inconstant wind, awakens to transitory brightness."(A Defence Poetry).
Yn yr un modd ag y bu ein hadran ddrama yn gosod sylfeini creadigol cryf ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi'n helaeth yn natblygiad dawn ysgrifennu, rydym hefyd wedi meithrin talent yn y byd adloniant, gan fuddsoddi'n helaeth mewn projectau comedi newydd ar gyfer radio a theledu ac, ar yr un pryd, yn denu cynulleidfaoedd anferth i berfformwyr cyfarwydd megis Max Boyce, Peter Karrie ac Owen Money.
iii) Theatr mewn addysg sydd yn cwmpasu sawl un o'r elfennau creadigol a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad addysg plentyn.
Y mae hi'n fwriad hefyd i drefnu nifer o weithdai arbennig i ieuenctid mewn gwahanol feysydd, ee gweithdai drama, roc, ysgrifennu creadigol, chwaraeon etc.
O'r cyfan o'r stori%au ysgogol, amrywiol a chyfoethog hyn, basgediad sy'n perio i ni fod yn wirioneddol falch o ansawdd ein rhyddiaith creadigol ar hyn o bryd, ei stori%au hi hwyrach sy'n cynnig y sylwadau mwyaf cynnil, praff a phriodol ar ein cyflwr fel bodau dynol yn niwethafiaeth yr Ewrob yr ydyn ni'n perthyn iddo.
Go brin mai rhyw hiraethu sentimental a barai i rywun holi a yw'r gallu creadigol hwnnw ar gaely dyddiau hyn o dwpeiddio diddiwedd i wneud rhaglenni o'r un radd.
Dydy Norwy ddim y tîm mwyaf creadigol - maen nhw chwarae fel Wimbledon - Route 1! Mae blaenwyr tal gyda nhw ond yn anffodus dim chwaraewyr creadigol.
Tydi sy'n gallu rhoi cyfeiriad i ynni'r ifanc a'i droi'n wasanaeth creadigol.
Ond, wrth gwrs, doedd gweithgaredd llenyddol creadigol ddim yn amlwg yn ei fywyd yn ystod ei flynyddoedd cynnar yng Nghaerdydd.
Gwendid llawer ohonynt yw nid diffyg dawn ond diffyg ymroddiad, diogi creadigol a difaterwch.
Hynny yw, mae'r meddwl fel petai'n cael ei godi i ryw angerdd creadigol anarferol, a gall hyn gael ei adlewyrchu yn yr hyn y mae'r meddwl yn ymwybod ag ef neu yn y graddau y mae'n ymwybod ag ef yn goystal ag yn y ffordd y mae'n mynegi'r ymwybod hwnnw.
Gwaith creadigol, ar unrhyw ffurf lenyddol, yn dangos tyndra rhwng dyn a'i gydwybod.
Er hynny, i Paul y perthynai'r egni a'r cyffro creadigol.
Fe anghofir yn rhy aml, 'rwy'n credu, fod hunanfeirniadaeth yn rhan o'r gwaith creadigol, a bod un sy'n analluog i wneud hyn yn drwyadl ac yn uniongyrchol yn sicr o fethu fel llenor, ac yn fwy felly fel bardd.
Y balans pwysicaf inni ei gael yn iawn, wrth gwrs, yw'r un rhwng gallu creadigol a sgiliau rhedeg busnes.
Disgwyliwn i'r Cynulliad ddod o hyd i ffyrdd creadigol i annog cyfranogiad pobl Cymru gyfan yn holl brosesau'r Cynulliad gan gynnwys cynnal fforymau lleol i fudiadau pwyso a chynrychiolaeth gymunedol o bob agwedd ar fywyd ein cymunedau.