Creadur digon surbwch oedd y perchennog.
Hynny yw, creadur cymdeithasol yw pob person dynol; er ei fod yn gyfrifol amdano'i hun, effeithir arno gan ei gymdeithas, fel y cyflyrir ei gymdeithas gan ei hanes hi.
O'r diwedd fe'm sicrhawyd gan y trapiwr nad aligator mohono na chrocodeil ychwaith: ei farn oedd mai iguana oedd, creadur a ystyrid yn fwyd danteithiol gan y brodorion.
LLONGYFARCHIADAU i Hugh Williams, Pant yr Afallen ar ei lwyddiant ysgubol gyda'r Hwch Las a'r deg mochyn bach, heb anghofio wrth gwrs yr hwch ei hun a'r tad - er mai y cwbl a ymddangosodd am y creadur hwnnw oedd mai Duroc oedd ei 'fec' - neu ei fecwn hwyrach!
Y creadur bach !
Roedd ef wedi rhyfeddu mor bitw oedd y creadur.
Ond pan gafodd fyrddio'r llong o'r diwedd rhyfeddai fod creadur mor gryf a solet wrth y cei yn anesmwytho ar y mor agored.
'Y creadur bach ...
Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!
Nid creadur â'i dynged wedi ei rhagbenodi yw dyn, ond enaid cyfrifol â chanddo'r hawl i ddewis, i bennu ei dynged ei hun.
Mi gewch chi ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur bach newydd yma lwyddo i swyno'r darllenwyr yn ty ni.
Creadur cymedrol heb fod yn rhy garedig nac yn or-greulon ond un anodd ei fesur a'i bwyso.
Llygoden yn unig a geir yn y Vita, ond fe ddeil Cadog y creadur bach a rhwyma hi wrth ei throed.
Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......
Gan nad beth, creadur y gwanwyn yw'r oen, ac arferais gredu, yn gam neu'n gymwys, bod a fynno tarddiad enw'r tymor cyntaf â ffurf lluosog y term 'oen'.
Y creadur hoffus a phell.' "Welis i 'rioed ddim byd yn bell ynddo fo.' 'Roedd Lleucu'n barod i amddiffyn ei thad-yng- nghyfraith i'r eithaf, ac 'roedd Sioned yn falch o'i chlywed yn gwneud hynny.
Hyd y diwrnod pan fu'r creadur bron â lladd un o'r plant bach.
Ni symudodd y ferch as wedi eiliad o edrych ym myw llygad ei gilydd, ailgychwynnodd y creadur ar ei daith a diflannu dros y twyn.
"Dacw fo Enoc yn disgwyl amdano fo." "Mae o'n nerfa i gyd erbyn hyn, y creadur, 'roedd o ar biga drain drwy'r pnawn." "Oes arno'i ofn o?" "Na, nid hynny.
Efallai na fyddai'r creadur wedi rhoi ei draed ynddi fel yna pe byddai'r llyfr Sut i... Drefnu Priodas ar gael yr adeg honno.
Am eiliad fechan rwyt yn credu dy fod wedi llwyddo ond yna fe weli'r creadur yn symud - yn symud tuag atat.
Ar ddiwedd y ffilm honno, hiraethai'r creadur oedrannus am yr Afallon tecnicylyr draw dros y don.
sioc o weld ei lun ar y newyddion, a gwaredu wrth feddwl be oedd y creadur byrbwyll wedi'i ddweud rwan, nes i sioc y cyhoeddiad ddyrnu eich gwynt.
Ond nid rheolwr ei weithredoedd a chrewr ei ffawd ei hun oedd dyn yn awr, eithr creadur nwyd, creawdwr cyffro.
Os cymerir y creadur o'r ewyn buan iawn y sycha, crebachu a marw.
Lewis Jones, creadur prin yn hanes meddygon Cricieth.
Ambell dro, digwyddai fod rhywun o wyr cyhoeddus y Rhos heb siarad mor barchus am yr Herald ag y teilyngai, ym marn y golygydd, a gwae y creadur hwnnw, yr oedd llach y golygydd arno.
'Ap' oedd yr enw a ddodasai ef ar y creadur dienwaededig oherwydd llymder ei gyfarth.
Mae pob elfen ym mioleg creadur - sut y mae'n datblygu wrth dyfu, lliw y llygaid, math o groen, neu faint crafanc anghenfil - wedi ei chynrychioli gan gyfuniad o un neu fwy o unedau gwybodaeth yn y DNA.
Creadur gwrthrychol, amhersonol, yw'r gwyddonydd ar y model hwn, yn cyfrannu dim at natur y darlun.
Lle rhyw dair llath o led oedd y fargen, a dyna oedd gweithdy'r malwr, ond gyda hyn o wahaniaeth, mai'r awyr oedd ei do; felly gwelwch fod y creadur hwn yn dibynnu'n hollol ar y tywydd am ei fywoliaeth.
Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.
Fedrodd y creadur wneud dim llawer o stydio 'chwaith.
Bydd siawns fod rhai o'r cyfuniadau newydd yma'n cynhyrchu creadur sy'n medru goroesi'n well nag eraill, wrth ehangu ar y wybodaeth enetig a etifeddwyd - gwybodaeth oedd yn llwyddiannus wrth fedru atgenhedlu yn y lle cyntaf.
Yn y diwedd, syniad rhywun o ddefnyddio hamsteras - os dyna fenyw y creadur - i dynnur bochdew o'i guddfan.
Oedd, roedd Stuart wedi dysgu lle'r oedd 'i le fe fel creadur du 'i groen, a chael 'i atgoffa ohono bob tro'r âi i fyd yn gwynion tu fas i ardal y docie, neu pan ddâi rhywun o'r tu fas i lawr i'r clinig plant neu i ymweld ag Ysgol Mount Stuart.
Wrth gwrs doedd yna ddim creadur byw yn unlle ganol nos, a doedd fawr o bwrpas gweiddi a galw am help." "Pwy ddaeth o hyd iddyn nhw?
Yr unig ateb i'r cadwriaethwyr yn Affrica oedd dewis haid gyfan i'w difa, gan sicrhau nad oedd yr un creadur yn dal yn fyw rhag trosglwyddo'r dychryn i haid arall.
Ac nid anadl creadur bychan oedd o'n ei glywed chwaith.
A doedd fawr ddim yn y tŷ i'r creadur ei gael i'w ginio, chwaith.
Creadur penderfynol yw Pedr, fe fyn fynd ymlaen.' 'Pedr,' meddai Ioan, 'y mae hi'n dywydd ofnadwy.' 'Wel, ydyw,' meddai Pedr, a lluwch ton yn mynd dros ei wyneb; 'Ydyw, mae hi,' meddai.
Cymerodd bedwar diwrnod i garej ddod o hyd i'r creadur ym mherfeddion y cerbyd ac yn ystod y pedwar diwrnod hwnnw tynnwyd y Myrc yn ddarnau ond i ddim pwrpas.
Mae llaw dyn yn fwy cyntefig ei ffurf a'i hyblygrwydd na'r un aelod sy'n cyfateb iddi gan un creadur arall, a'r ffaith ei bod felly sy'n ei galluogi i'w haddasu ei hun at wahanol ofynion ac angenrheidiau dyn.
Creadur sur, hir ei drwyn, llym ei dafod oedd Owen Owens, a chanddo draed drwg a barai iddo ddefnyddio'i ffon hir fel rhwyf.