Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cred

cred

Cred arall yw fod ci yn cerdded ar draws y maes yn beth anlwcus iawn i'r ochr sy'n batio ar y pryd ac na fyddant yn ennill y gêm.

Mae'n blysio am y ferch lanaf yng ngwledydd Cred, ac fe addawodd honno y câi ei weld Glanme.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod y Ddeddf bresennol mor ddiwerth nes bod yn anweledig.

Cred y cyhoedd y cânt wrandawiad teg gan y bobl gyffredin hynny sydd yn aelodau o'r rheithgor ac mae ganddynt ffydd, felly, ym mhenderfyniadau'r rheithgor.

A ddylen nhw fod yn barod i roi'r iaith o'r neilltu dros eu cred ynte a ddylen nhw fod yn mynnu cael addoli yn eu hiaith eu hunain?

Cred rhai y bydd y claf farw os daw dwy ochr yr Eryrod ynghyd o gwmpas y corff ond ni wyddys beth yw sylfaen y gred.

Eu cred oedd y gallai gwyddoniaeth sicrhau gwir ryddid i'r dyn modern a'i ryddhau o lyffetheiriau ofergoel a chredoau gormesol yr eglwysi.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod lle unigryw ac arbennig i'r iaith Gymraeg yng Nghymru fel priod iaith Cymru ac y dylid cydnabod yr egwyddor hon yn swyddogol mewn deddf gwlad.

Cred os gweithredir mewn modd neilltuol mae anlwc yn dilyn.

Enillid aelodau drwy amrywiaeth o argyhoeddiadau megis cred newydd yn Nuw fel Pen-lywodraethwr, neu apêl Cristionogaeth fel rheol foesol ragorach, a gwelai rhai yng Nghrist waredwr i'w rhyddhau o afael pwerau demonig.

Mae Maelgwn Magl yn cydio ynot ac ar ôl i'r wraig adrodd yr hyn y cred a ddigwyddodd, gorymdeithia'r holl bentrefwyr a thithau yn ôl i dŷ'r pennaeth.

A phroblem i mi yw dychmygu pa fodd y gallant ysgwario eu cred a hanes y byd; ac am hynny hefyd yr ydwyf yn credu bod pob ymgais i addysgu'r bobl yn gam pwysig ar y briffordd sy'n arwain at iechydwriaeth yr hil ddynol.

Cred y gellir gweithredu mewn modd arbennig er mwyn sicrhau lwc dda - ennyn bendith a'ch diogelu eich hunain ac eraill rhag aflwydd, yn aml drwy gymorth swynion.

Mae cred fod cathod yn medru gweld yn y tywyllwch.

Cred ambell yrrwr tacsi ei bod yn lwcus i gael cerbyd â'r llythyren U yn y rhif.

Yn wir, mae cred rhai Cymry ym mhosibliadau'r Gymuned mwyach yn anfesuradwy o optimyddol, ac yn ddigwestiwn.

Ceisio dehongliad newydd o'r llenor yr oedd mewn cymdeithas a gollasai'r gwerthoedd ysbrydol a oedd mewn grym yn Oesoedd Cred.

Ond cynnwys y mudiad newydd elfennau go ddieithr i feddwl Cymru heddiw, - cred mewn pendefigaeth gymdeithasol, ac ewyllys da (a dywedyd y lleiaf) tuag at Eglwys Rufain.

Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).

Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Cred llawer o'r ymfudwyr o hyd eu bod yn gwneud cymwynas trwy wrthod dysgu'r Gymraeg a mynnu nad yw'r Cymry i'w cyfarch yn yr iaith.

Cred y cyhoedd mai dim ond un pwrpas sydd mewn carcharu, sef diwygio'r troseddwr.

Cred y cwmni bydd gan bob cwmni tudalen rhyngrwyd eu hunain erbyn y flwyddyn 2002.

Nid cred negyddol yw hon, ond yn hytrach sylfaen i ddull cadarnhaol ac ymosodol o weithredu.

Mewn rhai ardaloedd cred pobl fod anlwc yn siŵr o ddilyn os bydd dau berson yn siarad â'i gilydd wrth deithio o dan bont rheilffordd.

Cred bellach fod twf y sbectrwm teledu digidol yn y dyfodol yn cynnig y potensial i ddatblygu gwasanaeth Saesneg penodol i Gymru.

Cred rhai mai enw rhyw sant Cymraeg anhysbys ydyw.

Y grêd bresennol yw i'r cefnfor hwn ail-lenwi sawl tro yn ystod cyfnod diweddarach yn hanes Mawrth ac fe seilir cred o'r fath ar sylwadaeth o ddyffrynnoedd afonydd ar gledr mynyddoedd tanllyd mwy diweddar.

Cred mewn rhagarwyddion neu argoelion, cred fod rhai pethau, yn arbennig ym myd natur, megis adar ac anifeiliaid, yn gyfrwng i ragfynegi'r dyfodol ac i ddateglu gwybodaeth am gyflwr dyn ei hun, boed lwyddiant neu aflwyddiant, lwc neu anlwc.

Cred y Gymdeithas fod perygl i'r Byd Addysg Gymraeg ddatblygu'n beiriant hunan-gynhaliol, a bod angen hybu'n bennaf y datblygiad hynny lle mae'r drefn addysg yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn hytrach na hybu'r defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r ysgol neu'r coleg yn unig.

Cred y Cyfarfod Cyffredinol fod yn rhaid i'r Gymraeg gael presenoldeb ym mhob maes ac fod gan pawb o bobl Cymru yr hawl i'w defnyddio.

Yn wir, dyma'r gair allweddol a ddefnyddiwyd gan ddiwinyddion amlycaf Ewrop i ddisgrifio siglo sylfeini cred.

Ac yng Ngwledydd Cred, drwy'r canrifoedd hir o amser Paul hyd at o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg, uniaethwyd mewn ffordd ryfeddol ffawd y Cristion unigol a phwrpas Duw fel yr amlygid ef drwy hanes.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod eithrio'r sectorau preifat a gwirfoddol o'r ddeddf yn arwydd clir nad yw'r ddeddf o ddifrif yn ceisio cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol yng Nghymru.

Cred y Cyfarfod Cyffredinol fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn perthyn i oes a fu - i'r ganrif ddiwethaf - a'i bod bellach wedi colli ei phlwc a'i pherthnasedd i fywyd pobl Cymru heddiw.

Gallant ddiolch fod Cristngion mor ddifeind ou cred a'u crefydd hwy.

Cred Martin-Jones fod dadansoddiadau fel rhai Gal a Gumperz yn welliant ar waith Fishman a'u gyd-weithwyr/-wragedd, yn yr ystyr fod y safbwynt micro-rhyngweithiol yn gosod pwyslais ar broses yn hytrach na strwythur, ac nid yw mor haearnaidd ^a dull Fishman efo'i bwyslais ar normau cymdeithasol.

Cred rhai i'r afonydd hyn lifo i gefnfor anferth a fu'n sych ers tair biliwn o flynyddoedd!

Yn ŵr deallus a fu'n crwydro gwledydd Cred rhaid oedd iddo ef gydnabod uwch-ddiwylliant y Norman.

Lle cred yr AALl bod yr anghenion cymaint fel bod rhaid iddynt hwy, yn hytrach na'r ysgol, benderfynu ar y ddarpariaeth addysgol arbennig, yna mae'n ddyletswydd arnynt i wneud datganiad ffurfiol o AAA sy'n arenwi anghenion y disgybl ac yn gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer.

Os digwydd un ddamwain, yna cred y cwmni%au awyr y gallant ddisgwyl dwy arall i'w dilyn.

Hyd heddiw ymhlith rhai pobl, yn arbennig y to hyn, ceir cred nad gweddus mynd allan i 'wydd pobol' wedi cyfnod o salwch heb yn gyntaf fynd i'r capel neu'r eglwys i ddiolch.

Cred rhai mai'r mwyn plwm oedd wedi tynnu'r dieithriaid hyn i'r sir, ac y mae'n wir mai o ardaloedd mwyn Sbaen y daethai rhai o'r milwyr i Lanio.

Yn adlewyrchu cred eithaf gyffredinol fod bechgyn yn glyfrach na merched.

OS ydach chi mewn gwirionedd ar ben eich hun, tydach chi ddim siwr, beth bynnag yw eich cred...

Erbyn i ti ei dal, mae'r pentref i gyd wedi dihuno a phan wêl y trigolion dy fod yn cydio yng ngwraig Alcwyn cred rhai ohonynt dy fod yn ymosod arni.

Cred gyffredin arall yw'r un sy'n dweud ei bod yn siŵr o fwrw glaw ychydig wedi i rhywun olchi ei gar.