Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

credid

credid

Credid fod y goron ddrain wedi ei gwneud o'r ddraenen wen.

Wedi'r cyfan, credid mai gwraig fedrus oedd un o'r prif anghenion i sicrhau hapusrwydd teulu a oedd yn dibynnu ar y môr am ei gynhaliaeth.

Credid y byddai unrhyw weithgarwch rhywiol ar ran dynion a merched yn annog y ddaear i dyfu.

Er enghraifft, pe bai gwraig feichiog yn neidio drosti credid y gallai'r llinyn bogel dagu'r baban.

mae'n bosibl y credid bod Santes Dwynwen (fel Santes Melangell a San Ffraid) wedi treulio cyfnod yn Iwerddon cyn dod i Gymru.

Yng ngwledydd y Gorllewin ar hyd y canrifoedd credid mai ergyd y stori hon yw cyflwyno Crist i'r cenhedloedd.

Aelwyd oedd hi, yn anffodus, lle credid bod Dr John Williams, Brynsiencyn a Dr Thomas Charles Williams yn wŷr perffaith.

Credid ei fod yn un o blanhigion y tylwyth teg gyda gallueodd hud yn perthyn iddo.

Yn yr un modd credid gynt na ddylai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn fynd i ymweld â phobl heb yn gyntaf fynd i le o addoliad.

Credid mai ar y goeden hon y crogodd Jiwdas Iscariot ei hun ac fe'i hystyrid yn goeden anlwcus iawn.

Credid fod y pren yn amddiffyn y tir y mae arno neu'r cartref y bydd yn tyfu gerllaw iddo neu'r person fydd yn cario darn ohono yn ei boced.