Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

credo

credo

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

iii) i ddatblygu credo a ategai mai Duw yw creawdwr y byd, a dilysrwydd ymgnawdoliad Crist.

Yr ydych wedi rhoddi i lawr athrawiaeth ddogmatic bendant nad oes yr un rhithyn o braw iddi - na ellir llenyddiaeth fawr heb fod y syniad o bechod yn cael lle mawr yn y credo...

Fe ddywedodd cyfaill am un arall o'r gohebwyr tramor mawr, Nicholas Tomalin, ei fod yn `sgrifennu damhegion a gadael i eraill greu'r credo'.