Er nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau deddfu cynradd mae Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud y gall y Cynulliad 'wneud unrhyw beth i gefnogi neu i gynnal yr iaith Gymraeg'. Credwn mai hawl foesol y Cynulliad yw deddfu dros y Gymraeg.
Yr oeddwn innau yn teimlo drosto, am y credwn nad ydoedd yn ddi-Gymraeg, gan na phenodid neb - doedd bosibl!
Credwn mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru ac y dylid cydnabod y Gymraeg a'r Saesneg fel ieithoedd swyddogol.
Credwn fod Cadeiryddion y Pwyllgorau yn allweddol wrth greu amgylchedd lle mae aelodau o'r Pwyllgorau ac eraill sy'n cyfrannu iddynt yn teimlo'n gwbl rydd i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall yn ôl eu dymuniad.
Credwn felly mai newid sylfaenol ym mholisi iaith gweinyddiaeth y Cyngor sydd ei angen, yn hytrach na newid polisi penodiadau.
Credwn fod Cymru yn wlad amlieithog mewn byd amlieithog.
Er bod y dystysgrif geni yn dweud i'w daid gael ei eni yn Oldham credwn nad yw hynny, o anghenraid, yn wir.
Os yw'r hyn ddywedodd yr entomolegydd yn gywir, a chan gofio mai nid yn y ddaear yn unig y gaeafa pryfetach dylid sicrhau fod gennym gyflenwad o leiddiaid i'w gwrthwefyll, hynny yw os credwn mewn cemegau felly.
Credwn fod gennyf wrthsafiad cryf i'r firws.
Credwn bod angen mynd ati mewn ffordd bositif i ddatblygu ysgolion pentrefol: rhaid rhoi'r gorau i edrych arnynt fel problemau a dechrau eu gweld fel asedau gwerthfawr i'r gymuned.
O fewn y Cynulliad ei hun, credwn y byddai'n fanteisiol iawn sefydlu Pwyllgor arbennig i fonitro a gweithredu'r Polisi Dwyieithog yn yr un modd ag yr argymhellir trefniadau yn y Papur Ymgynghorol i fonitro ymddygiad a safonau aelodau'r Cynulliad.
Credwn mai hawl foesol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw deddfu ar yr iaith Gymraeg.
Yn ogystal, credwn y dylid cydnabod ieithoedd eraill Cymru.
Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd.
Credwn hefyd bod y rhaniad oedran uchod yn adlewyrchiad teg o'r Cymry Cymraeg yng Nghymru heddiw, ac felly rydym yn hyderus o ddilysrwydd y sampl o ran rhyw ac oedran.
Credwn nad oedd dim yn wahanol ar wahân i'r tywydd, y codwm, ras wedi ei cholli ...
Credwn fod angen cydnabod fod cyfrifoldeb ar bob darparwr i gyfrannu at greu hinsawdd ieithyddol fwy cytbwys yng Nghymru.
Credwn fod profiad yn sylfaenol i addysg a bod angen galluogi pobl ifanc i sylweddoli eu potensial.
Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r Cynulliad weithredu o'r cychwyn cyntaf fel corff sydd yn dymuno ennill yr hawl i basio deddfwriaeth gynradd.
Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd â hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.
Credwn bod sicrhau mwy o ryddid i gyfnewid syniadau rhwng addysg a busnes yn datblygu amgenach dealltwriaeth rhwng y ddau faes ac yn foddion i adeiladu partneriaethau llwyddiannus.
Credwn ei fod yn gwbl angenrheidiol fod y Cynulliad yn arddel a gweithredu polisi dwyieithog cyflawn o'r diwrnod cyntaf.
Credwn fod angen chwyldroi meddyliau ac arferion yn ogystal ag ailddosbarthu cyfleon a grym o fewn cymdeithas er mwyn troi hyn yn bolisi bwriadol ac yn realiti.
Yn hytrach na chynnal Pwyllgorau Rhanbarthol, credwn y dylai gwaith dydd i ddydd y Cynulliad gael ei ddatganoli o Gaerdydd gyda gwahanol adrannau o'r Cynulliad yn cynnal canolfannau mewn gwahanol rhannau o Gymru.
Credwn ei fod yn bwysig mai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n rhoi arweiniad ar y mater pwysig hwn - syniad a gafodd ei ategu'n glir yn yr ymateb syfrdanol (dros gyfnod byr o amser) a gawsom i'r ddeiseb.
Credwn fod hawl gan bobl Sir Gaerfyrddin gael eu gwasanaethu gan Gyngor sydd yn Gymraeg yn ei hanfod, yn hytrach na chan sefydliad Saesneg sy'n gwisgo gwedd dwyieithog wrth drin y cyhoedd.