Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crefyddwyr

crefyddwyr

Nid oeddynt fel crefyddwyr, ychwanegodd, wedi sylweddoli aruthredd yr amgylchiadau a'u goddiweddodd, ac o'r herwydd yr hyn a wnaed oedd chwarae'n ddiymadferth â'u hymylon heb sylweddoli fod wyth deg y cant o'r boblogaeth y tu allan i'r eglwysi.

I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.

Ond roedd y crefyddwyr yn dal i gredu yn nyfodol yr achos ac wedi sylweddoli pwysigrwydd hanes, a dysgu ei wersi hyd yn oed os nad oedd y gwŷr rhyfelgar wedi gwneud hynny.

A gwelai rhai o'r crefyddwyr mwyaf selog o fewn y capel ei hun y rhyfel fel brwydr yn erbyn yr annuwiol rai.

Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.

Un gred gyffredin yw fod gosod penglogau o dan loriau eglwysi yn fodd i atal atsain, ond y mae'n bur debyg mai ymgais crefyddwyr yw'r gred hon i geisio cyfiawnhau hen arfer gyn-Gristnogol.