Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.
Creigwyr y gelwir y dynion hyn, am mai ar y graig yr oeddynt hwy am y rhan fwyaf o'u gwaith.