Mae criafolen yn ein gardd ni a byddaf yn mynd ati ambell dro a rhoi fy nhalcen ar y rhisgl.
Aeron y criafolen a'r ysgawen yw'r cyntaf i ymddangos ac i ddiflannu, a'r mwyalchod sydd yn bennaf gyfrifol am eu diflaniad.