Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.
Talodd am ei hur ac ychwanegu cildwrn bach crintach i'r gyrrwr siomedig, gan gofio'i addewid iddo'i hun nad afradai mo'i arian hyd nes sicrhau bod ganddo ddigon o foddion i ddychwelyd adref yn ddiargyfwng.