Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cripil

cripil

Trodd yn ei ôl o'r diwedd i ddiddosrwydd yr ogof a chanfod y Cripil yn gorwedd ar ei hyd ar ddarn o groen anifail o flaen tanllwyth.

Chwarddodd y Cripil ar hynny a hwn oedd ei ymateb cyntaf i'r sgwrs.

'Roedd ôl blinder y dydd ar wyneb y Cripil ac er bod hwnnw ddwywaith ei oedran, cododd Elystan y corff hanner diffrwyth a'i fagu yn ei arffed fel magu plentyn.

arwydd o'r gaeaf diffrwyth ac oer oedd y Cripil iddo.

Gruffudd yn derbyn ffafrau ei dad...cael byd da a diogi a digon o anwes i'w gadw'n ddiddig a sicrhau na fydd arno ormod o frys i ddianc at yr Ymennydd Mawr a'i debyg!" Temtiwyd Elystan i fwrw'r Cripil i'r llawr am yr eildro y diwrnod hwnnw.

arwyddlun o'r hil archolledig oedd y Cripil, y llwythau hynny o bobl y rhoddai Elystan unrhyw beth am allu eu hysgwyd o'u diymadferthwch a rhoi anadl newydd ynddynt.

"Rydych chi'n edrych ar oroesiad di- fflach iawn bywyd digon lliwgar, cripil â'i ddwy goes wedi eu parlysu a dim ond hanner ei goluddion ganddo.

Wrth weld yr Ymennydd Mawr yn dynesu trodd y Cripil ei lygad chwith mewn rhyw gymysgedd addolgar o drueni a balchder i edrych arno.

'Roedd y Cripil wrth ei draed yng ngafaelion cwsg.

Dy gario di bob cam ar fy nghefn." Chwarddodd y Cripil yn llawen o fewn clydwch y breichiau mawr.

Anesmwythodd y Cripil yn ei freichiau am fod gwres y tân yn ysu ei gnawd.

O bryd i'w gilydd meddiennid Elystan â'r meddyliau rhyfeddaf a 'doedd ryfedd i'r Cripil ddannod iddo mai gwastraff amser oedd ei holl

Yr eiliad nesaf fflachiodd llygad y Cripil unwaith yn rhagor yn fflam y tân a phan beidiodd y llewyrch meddai, "Fe enir mab arall i'r arglwydd Gruffudd ond nid da gormod o feibion 'chwaith rhag bod ymrafael rhyngddynt." "Gwell gormod na dim," oedd sylw cwta yr Ymennydd Mawr.