Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cristionogaeth

cristionogaeth

Y mae'n galondid mawr gweld cenhedlaeth newydd o ysgolheigion ifainc yn ymgodymu â hanes Cymru, ac â hanes Cristionogaeth yng Nghymru'n neilltuol.

Enillid aelodau drwy amrywiaeth o argyhoeddiadau megis cred newydd yn Nuw fel Pen-lywodraethwr, neu apêl Cristionogaeth fel rheol foesol ragorach, a gwelai rhai yng Nghrist waredwr i'w rhyddhau o afael pwerau demonig.

Ysgrifennodd yr hanesydd Herbert Butterfield, yn ei lyfr The Origins of Modern Science, : " Mae Chwyldro Wyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg yn bwysicach na dim a ddigwyddodd ers cychwyn Cristionogaeth.

Yr oedd y llythyrau hynny'n frawychus, gyda'r 'peth mwyaf arswydus a glywyd', a chytunodd y mwyafrif ohonynt yn hollol annibynnol ar ei gilydd nad oedd dim ymdeimlad fod angen Cristionogaeth nac Eglwys ymhlith y lliaws mawr.

Eu nod hwy oedd amddiffyn Cristionogaeth yn erbyn ymosodiadau paganiaid ac arddangos rhagoriaeth ddeallusol ac athronyddol ei dysgeidiaeth a'i safon foesol uwch.

Ymddengys mai dysgeidiaeth i'w chredu oedd Cristionogaeth, a deddf i'w chadw.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.