Ac mae'r wyau toredig a pherfedd ceiliogod yn siarad rhwng y meini ac o dan y cromlechi am genedlaethau diflanedig sydd yno o hyd yn llygaid ac yn llafar y Casiaid.
Ac mae'r tirwedd hefyd yn rhan o achos y cynefindra - y dyffrynnoedd gwyrdd rhwng y bryniau yn y glaw llwyd, y meini a'r cromlechi yn fud dan orchudd y niwl, y goeden unig yn y gwynt.
Beddau'r milwyr oeddynt ar goel gwlad, ac yn wir edrychant yr un ffunud â'r beddau o oes y cromlechi.