Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cronicl

cronicl

Mae tebygrwydd sylfaenol rhwng y ddwy nofel yn eu defnydd o ffurf y cronicl dogfennol sy'n cofnodi hanes un teulu dros gyfnod hir, yn cyfateb mwy neu lai i flynyddoedd cynnar y ddau awdur.

Cronicl o fywyd y Rhos a gaed yn y Rhos Herald tros ei chyfnod.

O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.

Gwyddwn ers blynyddoedd lawer fod ganddo ef gasgliad da o'r "Amserau% a'r "Cronicl" - naill wedi ei argraffu yn Ynys Manaw a'r llall yn y Channel Islands, i osgoi'r dreth a osodid ar bapurau newydd.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.