Wedyn 'roedd Ellis brawd fy Nain Crowrach, wedi priodi Catherine Brynawel ac 'roedd brawd Catherine, sef Thomas John Williams, yn ail fet ar long berthynol i Thomas Morel,Caerdydd, yr SS Llansannor.
'Roedd Dewyrth Dafydd yn bump oed ar y pryd ac yn cofio amdano'i hun yn sefyll efo'i fam yn nrws Crowrach a chlywed yr ardalwyr yma ac acw hyd yr ardal yn bloeddio 'Elin, Elin'.