Arhosa'r ceiliogod yn y dyfroedd croyw rhwng saith a naw mlynedd.
Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.
Canodd rywun gorn y modur deirgwaith ac yna clywyd gwaedd mewn Saesneg croyw.
Ond o blith y genhedlaeth honno, efallai taw Parry-Williams - yn fwy felly yn nhinc felancolaidd ei ymadrodd nag mewn unrhyw ddatganiad croyw - a roes lais yn bennaf i'r digalondid sylfaenol hwn.
Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.
Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.