I sillafu'n gywir, mae'n bwysig gweld y gair yn ogystal â'i glywed; a hwyrach bod plant sy wedi cael eu codi o'r crud ar luniau'r teledu yn ei chael yn haws i ddarllen lluniau na darllen geiriau.
O'r crud ac nid o'r 'gym' y daw KO
Gwahanol iawn oedd crud-doli costus Anna.
Digon rhesymol gwneud esgus i ymdroi o gwmpas Crud y Gwynt am ryw hanner awr ychwanegol, ond wedyn byddai'n rhaid iddi gerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd y ffordd i aros amdano.
Ar ôl cyfnod byr o fwndelo wrth y shêr, crud y felin fel y gelwid y gwaith hwnnw, aeth Phil i ddala yn y felin.
Cais syml i benderfynu sylfeini ydoedd, ac ni synnai "A.E" pe byddai "cenhedloedd penllwyd gan ddoethineb wleidyddol" yn dirmygu'r ymgais i "sefydlu meddwl gwleidyddol gan genedl hunan- lywodraethol newydd, neu ddamcaniaethau am wareiddiad yn cael eu trin o gwmpas crud Gwladwriaeth yn ei babandod".
Camgymeriad mawr fyddai trwsio crud gyda phren ysgawen gan y gallai gwrachod wedyn niweidio'r plentyn.
Yn gyntaf, yr Almaen oedd crud y Diwygiad Protestannaidd ac yr oedd yn dal i fod yn un o'i fagwrfeydd cryfaf.
fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.
Ym mis Mai 1993 daeth trychineb i ran Denzil pan fu farw John yn y crud - rhoddodd hyn bwysau mawr ar ei briodas ef ag Eileen.
Adroddiad Beveridge yn awgrymu sefydlu Gwladwriaeth Les a fyddai'n gofalu am bobl 'o'r crud i'r bedd'.