mae'r ffilm yn cychwyn gyda Cruella wedi ei gwella gan seiciatrydd o'r enw Dr Pavlov (! dyma safon y jôcs) o'i hatgasedd tuag at gwn.
Cruella De Vil (Glenn Close) yw'r llall a hi syn tra-aglwyddiaethu yn y ffilm gyda dim ond anwyldeb y cwn yn gwir gystadlu a hi.
Yr un modd ei gariad Chloe (Alice Evans) syn digwydd bod yn swyddog prawf Cruella.
Wrth gwrs, dydi hyn ddim yn para ac y mae Cruella yn fuan iawn ai bryd ar greu côt y mae angen crwyn 102 o Ddalmatians i'w chwblhau.