Ond y mae dau anhawster: yn gyntaf, i ddyfynnu Crwys: 'Prin yw'r arian yn god', ac yn ail, beth a wnawn ag ef, wedi ei brynu ar wahân i ymddeol iddo, efallai?
Fel Crwys, gwelai Sarnicol, hefyd, gartrefi'r werin yn gaerau diddanwch a meithrinfeydd mawredd.
Ni all diweddglo'r bryddest ond peri meddwl nad oedd Crwys mor sicr o deilyngdod dyfodol ei werin ag ydoedd o'i gorffennol.
'Roedd rhai o'r aelodau hyn nad oedd ganddyn nhw ddim Cymraeg, ond na fuasen nhw byth wedi breuddwydio mynd i gapel Saesneg, gymaint oedd eu teyrngarwch i'r gymdeithas yn y Crwys.
Siawns nad oedd Crwys yn ddigon o realydd i wybod ei fod fel bardd yn ffalsio'n ddengar yng ngwasanaeth delfryd genedlaethol arobryn.
Pa warth a allai fod yn yr 'eurgan' a ganai'i phrifardd gorwych iddi mewn iawn bryd nad oedd cysgod ohono i'w weld, yn ôl portread Crwys, yn ei gorffennol?
Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr.