Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crybwyll

crybwyll

Ac nid wyf wedi crybwyll yr athrawon o gwbl.

Rhaid crybwyll elfen nad oedd yn wybyddus i'r cynllunwyr cynnar ond a gafodd ddylanwad mawr ar eu datblygiad maes o law, sef gwaith Prosiect ieithoedd Modem Cyngor Ewrop.

Mae'n demtasiwn fawr i adolygu gweledigaeth yr Athro Glanmor Williams trwy synnu at yr enwau, y digwyddiadau a'r sefydliadau nad yw'n gweld yn dda eu crybwyll.

Wna-i ddim ar hyn o bryd geisio esbonio sut y mae'r gyfundrefn arbennig hon yn sefyll ychydig ar wahân i'r rhannau ymadrodd eraill, heblaw crybwyll nad yw mor gysylltiol gystrawennol â'r lleill (fel arddodiaid a chysyllteiriau) ac mai hon yn anad dim sy'n cynnwys y deunydd ystyrlon mwyaf 'diriaethol' ymhlith geiriau.

Cyn gadael oes ddymunol y pumdegau a'r chwedegau rhaid crybwyll tri phwynt digon syml (y brychau y soniwyd amdanynt uchod).

Afraid yw crybwyll ei fod yn brydlon wrth y bwrdd brecwast drannoeth, ond yn rhy eiddgar a chynhyrfus i fwyta llawer.

Rydw i eisoes wedi crybwyll Topsy Turvy, ac yn sicr Best Shape ydi'r gân sydd debycaf i honno.

Adeg Rhyfel y Degwm dyna ysgogodd erthygl olygyddol y Times, sy'n crybwyll '...'

Yn gyfochrog â'r ddau gyfeiriad hyn mewn hen gerddi, y mae'n werth crybwyll y ffaith fod pedwar neu bymp o bersonau o'r enw Arthur yn hysbys yn y chweched a'r seithfed ganrif, yn benaethiaid neu fân frenhinoedd, yng Ngogledd Prydain, yn Iwerddon ac yng Nghymru.

Bob Cyf Cyff bellach dwi'n teimlo 'mod i'n crybwyll Golwg a dydi eleni ddim yn eithriad.

O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.

Nid oes gan Watcyn Wyn air am y Dafydd Williams hwn fel un o frodyr Cwmgarw, er ei fod yn crybwyll ei fab o'r un enw.

Ymhlith yr enwau eraill syn cael eu crybwyll mae Peter Taylor o Gillingham, David Moyes o Preston a Joe Kinnear.

Gan fy mod wedi crybwyll un o freuddwydion Waldo, gwell imi grybwyll un arall, er nad yw'n dal cysylltiad ag unrhyw un o'i gerddi.

Rydym eisoes wedi crybwyll fod yn rhaid i'r Gymraeg ffynnu ymhob agwedd ar gymdeithas os yw hi i ddod yn hunan-gynhaliol.

Wrth geisio rhoi braslun o brif nodweddion amaethyddiaeth, hinsawdd, tirwedd a phriddoedd yng Nghymru 'rydym eisioes wedi crybwyll rhai o'r dylanwadau a chysylltiadau rhyngddynt.

Byddwn yn crybwyll hyn o dro i dro wrth fy arbenigwyr orthopaedig a phrosthetig.

Daw crybwyll y lasso a fi'n daclus iawn at un arall o gymeriadau cofiadwy fy mhlentyndod, Jim y Glo.

Er na ellir rhoi llawer o goel ar hynny, mae'n werth crybwyll bod yr hanesydd Rhys Amheurug o'r Cotrel yn son am feirdd Rhys ap Tewdwr yn ymweld a llys Iestun ap Gwrgant ym Morgannwg - dywed mai hyn fu dechrau'r ymrafael rhwng y ddau dywysog; mewn un copi'r hanes, dywedir mai beirdd Morgannwg a aethai lys Rhys, ac fe'u disgrfir hwy'n ei foli mewn cerdd.

Gellir llunio rhestr faith o'r planhigion, yr adar a'r anifeiliaid sy'n cael eu crybwyll ynddo.

Erbyn hyn, 'dwy ddim yn credu fod y Prif Uwch-Arolygydd erioed wedi crybwyll y stori wrth y Bos, ond ei fod yntau, ac efallai rhyw eneidiau tebyg ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, wedi gweu'r stori i mewn i'r amgylchiadau a'r bobl oedd yn bodoli yn ein rhan ni o'r byd ar y pryd hwnnw.

Pe bae yna rhyw ddiffyg gweledol gan y person hwnnw, fel trwyn hir, neu goesau ceimion, yna byddai'r ffolant salw yn crybwyll hynny.