Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cryfhau

cryfhau

Teimlaf petai'r rhan yma wedi cael ei ddatblygu ymhellach fe fyddai wedi cryfhau'u ddrama, roedd fel petai'r awdur wedi cyrraedd man ac nad oedd yn gwybod sut i'w ddatblygu.

Roedd pawb am ei weld yn gwella, yn cryfhau digon i gymryd ei le yn nathliadau hanner canmlwyddiant y capel bach.

Urdd oedd hon a roes sylw arbennig i addysg grefyddol ymhlith lleygwyr er mwyn cryfhau defosiwn a phietistiaeth yn eu mysg yn ôl dulliau y devotio moderna (defosiwn modern) fel y'i gelwid.

Roedd wedi cryfhau ffenestri ei gaban pren melyn â bariau haearn cryf, fel pawb arall, gyda llaw, a allai fforddio hynny yn y rhan hon o'r dref.

Fel arfer, byddai criw Iddewig yn gorfod cael eu cludo i'r dref mewn cerbyd â'i ffenestri wedi eu cryfhau i wrthsefyll ymosodiadau'r intifada.

Y mae'r Pwyllgor am weld cryfhau'r bartneriaeth honno yn y dyfodol, nid ei dileu.

Mae'n terfynu'r traethawd drwy son am Geiriog fel bardd gwladgarol: 'yr oedd yn nofio ar donau y llanw gwladgarol sydd yn cryfhau yng Nghymru bob dydd.'

Byddai canlyniadau'r arolwg yn werthfawr er cryfhau polisi%au tai y cynllun lleol newydd a gosod sylfaen ar gyfer strategaeth tai y Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth ynglŷn â'r cymunedau hynny lle 'roedd angen gwirioneddol yn bodoli ar gyfer tai rhesymol eu pris.

Arolygu safle ac amserlen BBC Radio Wales er mwyn cryfhau ei hapêl gyffredinol i gynulleidfa eang ar draws Cymru gyfan, ac i alluogi'r orsaf i gystadlu'n effeithiol gyda gwasanaethau newydd.

Hwyrach y bydd yn gyfrwng ein tynnu ni'n nes at ein gilydd yn y pen draw, a'n cryfhau.

Disgwyliwn i'r Cynulliad sefydlu Fforwm Economaidd Democrataidd i ddatblygu ystod eang o bolisïau economaidd er mwyn cryfhau economi ein cymunedau gwledig a threfol a hynny ar sail yr egwyddor o gynaladwyedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Roedd cael tywys Cl_o y bore hwnnw wedi cryfhau ei awydd am gael ci.

Mae Epitaff eisoes wedi profi eu bod nhw gymaint yn gryfach wrth arbrofi gyda cherddoriaeth sydd ychydig yn feddalach na'r arfer, ac ‘rydym yn ffyddiog y byddai Vanta yn cryfhau trwy wneud hynny hefyd.

Hawdd canfod, fellym y gallai'r blynyddoedd hyn fel ffoadur mewn gwlad bell fod wedi cryfhau'n rymus y dylanwadau blaenorol hynny a droes Richard Davies yn Ddiwygiwr eiddgar.

Bydd ymarfer corff yn cryfhau eich calon.

Tanlinellir yn gyson fod y tebygrwydd rhwng Harri a i dad yn cryfhau o hyd (yn enwedig yn y dilyniant lle mae'r syniad cyfarwydd o linach a pharhad yn arf grymus i ddwysa/ u apêl emosiynol yr holl saga).

Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.

Mae strwythur y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cydnabod ac yn cryfhau'r prosesau dysgu a'r egwyddorion sy'n sail i'r arferion da meithrin.

* cryfhau rheolaeth ysgol?

Mae cyflawni nodau gwahaniaethedd yn cryfhau'r dulliau dysgu newydd ar draul dulliau traddodiadol.

Mae hyn yn cryfhau'r dweud fel yn y gerdd sy'n difrio'r Orsedd am beidio ag anrhydeddu Sion Aubrey cyn i Emrys Roberts, fu gynt yn Archdderwydd, ymddiswyddo yn 1994.

Yna, y newid sydyn o'r 'newyddfyd' i'r 'cynfyd' (gyda'r odl yn cryfhau'r sioc) a'r symud, yr un mor ddisymwth, o un modd ar synhwyro i un arall: o'r glust i'r tafod.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Cryfhau hyder yr athrawon yn eu gafael ar : a.

Hysbysebwyd yr alldaith, fel 'Profiad cryfhau cymeriad, sydd yn creu cyfeillgarwch sydd yn para oes'.

trwy nodi sut y gellid cryfhau statws y Gymraeg yn y gymuned leol a thrwy geisio pontio'r agendor rhwng y Cymry Cymraeg a'r Cymry di-Gymraeg lle mae hyn yn berthnasol.

Lle nad oedd un genedl yn ben, tuedd Herderiaeth oedd cryfhau hunaniaeth pob cenedl yn y wlad.

Dyna hefyd at ei gilydd a wnai cyfrolau cynnar Kate Roberts a DJ Williams, er fod lle'r unigolyn ynddyn nhw eisoes yn cryfhau.

cryfhau statws cynllunio'r iaith Gymraeg gan felly atal y tueddiad i benderfyniadau lleol gael eu gwyrdroi gan Apeliadau i'r Swyddfa Gymreig.

Mae'n rhaid cryfhau statws y Gymraeg er mwyn cystadlu'n effeithiol am grantiau i'w hybu o'r Undeb Ewroopeaidd.

Os yw'n credu bod teulu a chymdogaeth yn sefydliadau sy'n gymorth i bobl gael bywyd helaethach nag a gaent hebddynt, ceisia'r gwleidydd sicrhau amodau sy'n help i'w cynnal a'u cryfhau.

Rydym am weld y Cynulliad yn siarad dros Gymru ac yn cryfhau hawliau'r Gymraeg mewn cyd-destun Ewropeaidd a byd-eang.

Roedd clywed am y sachaid bwyd yn cryfhau fy amheuon am Twm Dafis.