Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cryfion

cryfion

Does dim dwywaith nad oedd y geiriau cryfion a ddefnyddiodd Symons wrth ddisgrifio'r ardal wedi rhoi ysgytwad go gryf i bawb a'u ddarllenodd ac a'u clywodd.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Ond mae'n nodwedd ar ymrysonfeydd geiriol y nofelau bod y ddwy ochr, ni waeth lle yr oedd cydymdeimlad yr awdur, yn cael llinellau cryfion er mwyn cynnal.

Yr oedd tad-cu Dafydd Pen-y-graig, Richard Cwm-garw, a'i frodyr Watkin a William a Morgan Cwm-garw yn ddynion adnabyddus yn y lle yn gynnar yn y ganrif o'r blaen, a magodd bob un ohonynt deuluoedd lluosog o fechgyn cryfion a merched glân.

Digon posibl eu bod yn rhesymau mwy materol a bydol efallai, ond eto roeddynt yn rhesymau cryfion.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Edrychant yn debyg i eifr o bell, gyda'u gwlan hir, brown a'u cyrn cryfion a thro at allan iddynt.

mae'n esgor ar deimladau cryfion a gweithredodd byrbwyll.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Maen nhw'n aros eu cyfle yn y gwanwyn pan fo'r ffermwyr yn plannu tatws yn y ddaear a phan nad ydi'r ffens drydan yn cael ei def- nyddio, a chyn gynted ag y mae'r tatws ifainc yn y ddaear maen nhw'n dod gyda'r nos ac yn tyrchu'r ddaear gyda'u trwynau cryfion ac yn dod o hyd i'w hoff fwyd.

Y mae'r Athro Ford, er hynny, yn pwysleisio fod y rhesymau a gynigwyd o blaid ac yn erbyn y ddamcaniaeth hon, fel ei gilydd, yn rhai cryfion, ac efallai'n wir y bydd modd cyfuno'r rhesymau hyn a chanfod y tu ôl i Arthur draddodiadau mytholegol a ymglymodd wrth berson hanesyddol.

Nid yw'n pwyso fawr ddim yn y dwr, ond ar y tir mae iddo gryn dipyn o bwysau ac felly mae ar ei gorff angen aelodau cryfion.

Braidd yn anffodus oedd hi efallai bod y cyntaf i ymaflyd yn y faner honno'n ddyn o egwyddorion cryfion, yn rhywun na fedrai weld bod rhai o'r pethau a adroddwyd yn y llyfrau a ddysgodd iddo sut i fyw, am gariad brawd at frawd ac at elynion yn tueddu i golli'u grym mewn awr o gyfyngder cenedlaethol'.

Er hynnny, mae cnewyllyn y cyfansoddi ar fesurau caeth o reidrwydd yn ffurfio dolennau cryfion a'r gorffennol.

Fel yr awgryma'r enw, a'r un Saesneg, gallant sboncian gyda'u coesau ol cryfion.

Taflwyd hi'n ddiseremoni, gan ddwylo cryfion, i gefn fan fawr las.