Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crymaidd

crymaidd

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.