Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crynhoi

crynhoi

Hwyrach y maddeuir imi am awgrymu fod Paul wedi gweld pethau'n glir ryfeddol a'u crynhoi mewn brawddeg fer, "Nid oes na gwryw na benyw canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu%.

Crynhoi'r cyfan ynghyd ( drwy gyfrwng cerddi'r Eisteddfod yn ystod dau ddegawd olaf y ganrif ), a diweddu'n weddol optomistaidd ar ôl canrif gythryblus, gan edrych ymlaen at gyfnod newydd cyffrous yn hanes Cymru, ond gan sylweddoli ar yr un pryd fod problemau yn bod yng Nghymru o hyd, ac y bydd sawl brwydyr i'w hymladd yn y dyfodol.

Nid crynhoi nac adolygu ymdriniaeth JR yw f'amcan yma ond ceisio chwanegu rhywfaint bach ati.

Gellir crynhoi prif ergyd dadl Glyn Davies i'r dyfyniad a ganlyn er ei fod yng nghwrs ei erthygl yn dweud pethau nad ydynt yn hollol gyson ag ef, ac er ei fod yn gorfod cydnabod nad oes ganddo enghreifftiau o'r math o ganu a ragdybir ganddo.

'R oedd datganiad o gefnogaeth gan Gymdeithas yr laith yn crynhoi ein teimladau ni hefyd.

Roedd hynny'n crynhoi'r cyfan.

Mewm un cornel o'r stafell y tu ôl i un o'r pileri, roedd mintai fechan o ddynion wedi troi'u cefnau ar y dawnswyr ac yn crynhoi eu sylw ar y dis bach du a gwyn a daflwyd gan y naill ar ôl y llall ar y bwrdd.

Tenau yw plot y nofel ac mae'r rhan fwya' o'r llyfr yn ceisio crynhoi gwahanol safbwyntiau a daliadau ynglŷn â'r ymgyrch losgi.

Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.

Mae'r system graddio yn ceisio crynhoi nodweddion hinsawdd, tirwedd a phriddoedd mewn un system sy'n disgrifio tir yn ôl ei ddefnyddioldeb amaethyddol.

Mae cymylau duon yn dechrau crynhoi ac os bydd hi'n glawio bydd hi bron yn amhosibl teithio ar hyd y ffordd yn ôl i Jijiga.

I'r pwrpas hwn byddir yn crynhoi elfennau o'r ymchwil gwreiddiol, ei berthnasu i'r sefyllfa ddosbarth trwy gyfrwng y tasgau a awgrymir, a'i gyflwyno'n dameidiau man haws eu treulio, gydag awgrymiadau am drafodaethau a thasgau ymchwiliol yn y dosbarth yn dod rhyngddynt.

Tasg wirioneddol anodd yw crynhoi pymtheg canrif o hanes i ddeuddeg tudalen a thrigain.

I bwrpas crynhoi rhestr o anghenion ymchwil, penderfynwyd mabwysiadu'r fframwaith a ganlyn, sy'n dangos y gofynion o fewn un o bedair ffram gyd-berthnasol.

Tasg anodd fodd bynnnag ydyw crynhoi dylanwad hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod llawer o wybodaeth ar gael ynglyn a'r ffactorau hyn ac oherwydd fod y berthynas rhyngddynt yn gymhleth.

Diwrnod pwysig ar galendr pawb yn y plwy oedd dydd Calan, gyda'r plant allan yn crynhoi calennig.

'Fe fyddaf fi'n gwisgo'r gorchudd pan fydd y gūr yn barod i deithio ar ful' yw un dywediad a glywsom sy'n crynhoi'r pryderon.

Ochr yn ochr â hyn roedd tuedd i gollfarnu'r dosbarth cyfalafol am fethu yn eu dyletswydd at y miloedd o bobl a oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd, yn ôl eu gorchymyn, i leoedd afiach.

Wythnos pan mae'r asiantwyr yn crynhoi yn ysu i arwyddo nid yn unig enillydd y brif wobr a'r wobr Lieder ond pob un sy'n ymddangos ar y llwyfan ar y noson olaf.

Ychydig fisoedd ynghynt, roedd Laima Andrikiene wedi dod i Aberystwyth i gyfarfod cyhoeddus i geisio crynhoi cefnogaeth.

Rhaid crynhoi'r genadwri a rhoi min arni cyn symud ymlaen.

Sylwodd Dilys ar gymylau'n dechrau crynhoi ac roedd hi am iddyn nhw droi'n ôl rhag cael eu dal yn y glaw.

Crynhoi a dosbarthu sgiliau addysgu athrawon.

Ar ôl crynhoi'r dystiolaeth am agwedd yr Eglwys Fore at ryfel a dangos ei hymlyniad diwyro wrth heddychiaeth, a dweud ychydig am ddechreuadau heddychiaeth fodern, daw'r awdur at ei brif bwnc.

Mae'n glod i Dr Morgan ei fod yn crynhoi'r dystiolaeth ar y pen hwn gyda'r fath gydbwysedd.

Pwysau canolog ar Rod Richards; Crynhoi cefnogaeth dros Gyngor Addysg i Gymru. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd poster 'Rod Richards - Unben Addysg Cymru' angen eu codi'n ehangach.