Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crynu

crynu

Daeth y floedd 'roedda ni'n ddisgwyl amdani cyn hir, nes oedd ffenestri'r tŷ cyngor yn crynu.

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

Os yw person yn teimlo'n rhy dwym mae'n chwysu, ac os yw'n rhy oer mae'n crynu.

Yn crynu ac yn chwys i gyd, mi edryches lan, a dyna lle'r oedd mistir yn hongian wrth drawst, a'i dafod allan a'i ddau lygad ar agor yn rhythu arna i.

Doedd o ddim wedi cysgu fawr ddim y noson cynt ac roedd o'n crynu a chwysu er ei bod yn fore braf o Fehefin.

ac mi o'n i'n crynu wrth ddeud - meddwl bod pawb yn sbio arna'i.

Baglai Mathew dros frigau'r creigiau a brwydrodd drwy'r tyfiant yn ddiymwared er bod ei gymalau'n crynu gan ofn.

Wel, os oedd gen i ofn dod oddiar y gadair, roeddwn yn crynu wrth feddwl am yr hyn a'm gwynebai.

ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.

Yr oedd ar fin galw Rageur a Royal pan deimlodd ei goesau'n crynu.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Roedd fy nghoesau'n brifo'n ofnadwy ar ol ail afael yn y sgio, ac yn crynu bob tro y safwn yn llonydd.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Y tu allan, gallwn weld teulu cyfan yn crynu mewn pabell fechan.

A ellid cymryd y stori fach hon fel rhoi diferyn o waed ar sleid, i'w harchwilio yn fy meddwl, fel y medrwn yn y diwedd, drwy weithio arno'n ddigon caled ac yn ddigon hir, weld Deddf y Bydysawd ei hun, a chael cipolwg ar fyd y sêr yn crynu yn eu lleoliad, fel breichledau ar fraich ddidostur Duw ei hun?

Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau'n crynu a'r bol yn aflonydd oherwydd fod arna'i ofn.

Yna gwelais fod y dyn yn y siaced law wedi dechrau crynu'n sydyn, roedd dagrau yn ei lygaid.

Yn graddol glywed adlais o grombil ein gilydd yn mynd yn un gân gorfoleddus...Roedd hi'n crynu wrth feddwl am y peth rŵan...

Ond y diwrnod hwnnw, roedd hyd yn oed y creigiau yn crynu.

Rwyt ti'n crynu fel deilen, 'ngwas i, wyt ti ddim yn dda?

meddai a'i lais yn crynu.

Wedi troi, sylwodd ar Llio yn crynu rhwng y cynfasau a safodd i fyny'n syth.

Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.