Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cudd

cudd

Dilyn rhaeadrau oedd fy ngwaith yr ochr draw, saith milltir o raeadrau rhwng copa'r bwlch a phentref bach Susauna, a milltir ar ben milltir arall o raeadr a phistyll yn ymuno a phrif afon y cwm o grognentydd clasurol, o'r pantiau eira disglair y tu ol i'r cymylau, ac o lasierau cudd Piz Vadret.

Cudd fy Meiau

Dim ond ambell adeilad sy'n dal i sefyll:mae ffrwydron cudd ym mhob man a does yna ddim dwr nac unrhyw gyfleusterau eraill.

Dyma gyfle arbennig i chi geisio dyfalu pwy yw perchennog y llais cudd yng nghystadleuaeth Adnabod y Llais.

Datgelwyd un o drysorau cudd Cymru yn Aberglasney: A Garden Lost in Time, a ddarlledwyd ar draws y rhwydwaith.

Arweinlyfr i dafarnau cudd gorau'r gororau.

Ar ddiwrnod cynta'r ffilmio; fe wrthododd ganiatâd inni ffilmio murlun anferth o Che Guevara yn Sgwâr y Chwyldro, gan esbonio fod y llun ar ochr pencadlys gwasanaethau cudd y wlad.

Cymerer wedyn ran olaf Soned XXXI: Cusana'r lloer y lli, mae'r ffrydiau'n dwyn I'r wendon serch-sibrydion llyn a llwyn, Ac awgrym ddaw i ddyn drwy gyfrin ddor Y cread o ryw undeb dwyfol hardd A dreiddia drwy'r cyfanfyd; tithau'r Nos, Delweddu wnei y dylanwadau cudd; O'r llwydwyll byw-ymrithia i wyddfod bardd Ei ddelfryd hoff, a genir odlig dlos Neu awdl gain neu farwnad felys-brudd.

Galaethau Cudd.

Doedd y ffoaduriaid ddim yn medru symud i unrhyw gyfeiriad gan fod yr Iraciaid wedi gosod ffrwydron cudd o'u cwmpas.

Ddim wedi i'w daid ddangos y llyfrau cudd iddo a'i ddysgu i'w darllen hefyd!

Tu cefn i un o'r silffoedd llyfrau yr oedd caead bach a man cudd tu ol iddo i gadw pethau gwerthfawr.

'Donie cudd, 'machgen i, donie cudd.

Dim villa wedi ei warchod â thrydan, dim gwarchodwyr a chþn Alsatian, dim ceir cyflym, dim chauffeurs, dim tâl a gwasanaeth gan y cynorthwywyr enwog pwerus, gan y gwasanaethau cudd, y llywodraethau militaraidd, y mudiad ODESSA - dim o'r dwli papur newydd hwn.

Ai cyfeiriad at ei gyfnod yn Lerpwl, ar lan Merswy, ac at ei 'garchar' fel Catholig cudd na allai ei gyhoeddi ei hun yn agored nes marw ei dad?

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.

Man cyfarfod tri chwm yw Funtauna mewn gwirionedd ac y mae gwastadedd cudd Val Funtauna ei hun yn ymestyn am filltir dda tua'r gorllewin, yn null yr Hengwm ym mlaen Cwm Cynllwyd, braidd.

Mae'r gwrandawiad Uchel Lys yn debyg o bara' diwrnod, wrth i fargyfreithiwr ar ran Sion Aburey ddadlau pwyntiau a allai weddnewid y berthynas rhwng y gwasanaethau cudd a'r bobol.

O'r uchder hwnnw medrai weld dros y wal arswydus honno, `Wal Berlin.' Am un mlynedd ar hugain roedd y wal hon, gyda'i thyrrau'n llawn o ddynion arfog, ei chŵn a'i chaeau'n llawn o ffrwydron cudd, wedi rhannu'r ddinas yn ddwy.

Mae rhywun yn rhoi gormod o goel ar allu'r gwasanaethau cudd - yn enwedig y rhai Almaenig.

Dangosai, meddai'r gwrthwynebwyr, wir ysbryd y mudiad, sef ei hoffter o ddulliau cudd, cyfrinachol o weithredu, a'i duedd Jesuitaidd.

Mae'r dyfyniad yn llawn man ffrwydron cudd, megis y cyfeiriad cynnil at 'yr ychydig', diffiniad Lewis , fe gofir, o nifer y rhai a all werthfawrogi llenyddiaeth.