ond mae detholiad 'gwerthfawr' yno o binwydd Alban, Corsica, Lodgepole ac ati, ond wedi dweud hyn, du-bol-buwch yw y coedwigoedd, cuddfan y llwynog - a dim llawer mwy.
Rydw i wedi meddwl sawl tro a oedd Miss Jones Bach yn gwybod ein bod ni yn ein cuddfan pan oedd hi'n mynd heibio.
'Nos trannoeth gwelid y tri yn ôl yn eu cuddfan.
Mi feddyliais am y posibilrwydd fod cuddfan yn y plas, ond er chwilio'r lle yn fanwl, fedrwn i ddim dod o hyd i'r un.
'O'u cuddfan, gallent, wrth edrych heibio i'r gornel, gadw golwg ar y llwybr yn weddol hawdd.
A fyddai Cymdeithas Rieni ac Athrawon yr ysgol neu'r ysgol gyfun leol yn fodlon estyn help-llaw i chi wneud cuddfan bwrpasol er mwyn gwylio adar?
Cwmanai Rod yn ei ymyl ar stôl uchel yng nghefn y lab (eu cuddfan arferol!) yn cyfansoddi brawddegau brwnt yn ei lyfr Ffis a Cem gan wneud ei orau glas i danio diddordeb Guto mewn limrigau coch.
Mae'n rhaid ei fod o'n wirion bost os oedd o'n credu y byddai o'n datgan ble'r oedd cuddfan ei gyfeillion.
Gallai'r bechgyn, o'u cuddfan, weld bod y golau yn llewyrchu ar y garreg y buont hwy yn neidio arni.