Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cul

cul

Tuedda'r cynrychiolwyr busnes honedig mewn ardaloedd gwledig i fod yn anwybodus am anghenion yr economi neu'r anghenion sgiliau heblaw am bersbectif cul anghenion eu cwmni neu sector eu hunain.

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Ac yna roedd y cwch cyflym wedi troi ac yn anelu fel mellten am yr agoriad cul i'r mor mawr.

Gollyngodd ochenaid o ryddhad wedi iddo gael ei hun drwy ddrws cul ym mhen draw'r ystafell.

Ac yn ail, yn y seiat neu'r rhyddymddiddan a ddilynai'r ddarlith, gallech fentro y byddai'r hybarch Fyfanwy, o fewn pum munud eto, wedi mynd a ni oddi ar lwybr cul ein pwnc i ryw borfeydd gwyllt, os nad gwelltog.

Bwrdd, ambell gadair, cwpwrdd a gwely, un cul.

Mae yna ddiffiniad arall, llai cul, o'r `safbwynt Cymreig'.

O'm blaen yn awr, Llwybr Afon Vallember tua'r dyffryn cul, mor gul nes bod hogiau'r hafod wedi medru hongian baner ddu hir hanner y ffordd rhwng ei ddau fur, tua mil o droedfeddi uwchben yr afon.

Ac yn awr dyma gyrraedd gwlad fwy mynyddig, yn llawn cymoedd cul a gelltydd trwchus, du.

Mae'r tren ei hunan fel fersiwn rad o'r Orient Express, sedd a gwely cul i bawb, a'r rheiny'n ddigon cysurus.

Yn awr ac eilwaith codai awel yn ddisymwth a chwythu llwch i'm llygaid, a rhaid oedd sefyll yn y fan a'r lle rhag of n i bwl sydyn o ddallineb fy nhywys dros y dibyn, gan fod y llwybr cul yn rhedeg yn bur agos ato ar brydiau.

O'r diwedd cyrhaeddodd y coridor cul a arweiniai at y drws.

Prin y gall neb yr amddifadwyd ei fro o reilffyrdd gan y Dr Beeching cul ei welediad ymatal rhag hanner addoli'r Rhatische Bahn, rheilffordd y canton, y Ferrovia Retica, y Viafier Retica (Rhaetia yw hen enw Rhufeinig y rhanbarth).

Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.

Fe/ ddaeth haul y gwanwyn â gwên i bob un o gefnogwyr brwd y Strade a holl aelode'r tîm fel ei gilydd, yn arbennig felly o gofio i bedwarawd o Glwb Llanelli grwydro oddi ar y llwybr cul, ac ymuno â Chlwb Caerdydd yn ystod diwedd y chwedege--Robert Morgan, D.

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau% Dirwynai'r angladd yn araf ar hyd llwybr cul mynydd fel sarff drist ar ei thor.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Fel ail reswm cyffredinol dywedir bod y cyfnod llewyrchus yma'n deillio o'r datblygiadau yn ein gwybodaeth am weithgarwch yr economi: fod syniadau Keynes, a'r datblygiadau mewn polisi%au a adeiladwyd ar y seiliau damcaniaethol hynny wedi galluogi'r Llywodraeth i gadw'r economi ar lwybr cul, heb ormod o chwyddiant na thyfiant.

O'r fan honno, gallent weld i bellterau cul y castell oedd wedi'i rannu'n dair rhan.

Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi.

Ar unwaith anfonwyd cwch i aros yn y môr gerllaw'r clogwyn, a rhuthrodd ambiwlans drwy'r lonydd cul gyda thîm achub ynddi.

Yn y cytin cul yng ngenau'r twnnel gallaswn fod wedi Parhaodd y profiad rhyfedd y soniaf amdano, nes imi gael fy nhraed ar wyneb caled y ffordd unwaith yn rhagor.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Roedd Bethlehem yn anhrefn llwyr wrth i bobl fanteisio ar eu hychydig oriau o ryddid: y strydoedd cul dan eu sang o bobl, mulod a cherbydau yn rhuthro i bob cyfeiriad.

Crisialwyd eu hegwyddorion cul gan eiriau Norman Tebbitt ychydig ddyddiau yn ôl: "People are not willing to be governed by those who do not speak their language." Dyna i chi ddiddorol!

Cawsai Tomos yntau olwg gefn-dydd-golau ar y ci'n ddiweddar, ac yna'n fuan roedd wedi canfod ei olygon cul a choch yn deifio'r nos.

Newydd adael y cwm cul yr oedd e ac wedi cyrraedd dyffryn toreithiog o feysydd gleision.

Wedi mynd trwy'r glyn cul, yr oeddwn yn cerdded trwy goedwig am y tro cyntaf, ond y mae muriau Val Susauna bedair mil o droedfeddi uwch eich pen erbyn ichwi gyrraedd Alp Pignaint, a chreigiau gwylltach eto yn gwarchod mwynder y porfeydd.

Nid oedd ond mynedfa cul at y lle uwch dibyn y graig a doedd eisiau dim on dpolyn hir i roi hergwd i ymosodwyr i lawr y graig.

Aeth honno o'i flaen gan ei dywys ar hyd grisiau cerrig, cul i lawr i berfedd y graig.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.