Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.
Nid oedd cymaint â hynny o enwau glowyr yno, nid oedd neb o deulu Nant y Gro, dim un o deulu'r Culheol ac Oakvilla a Thre'r Gât, ond roedd yna enwau dwbwl baril, enwau gyda Syr ac Arglwydd o'u blaen ac ni chollodd yr un o weision y Powell-Dyffryn, a'r Amalgamated Anthracite gyfle i fod yn aelod o'r Byrddau rheoli.