Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

culhwch

culhwch

Olwen ydyw'r anima i animus Culhwch, yr elfen fenywaidd sydd ymhlyg ym mhob gwryw, fel y mae yn animus ym mhob benyw.

Mae'r Pencawr yn fodlon ildio'i ferch os llwydda Arthur i gyflawni pob gwrhydri unigol angenrheidiol ar ran Culhwch, ac mae'n sylweddoli y bydd raid iddo ildio'i fywyd yn ogystal.

Mae'n credu hefyd mai natur yr hwch sydd yn y borchell, a hynny'n llythrennol wir am Culhwch, a aned o'r cil rhwng yr wrethra a'r rhefr ac a faged gyda'r moch.

Addaswyd Mehefin 1998 ar gyfer y wefan newydd efo Culhwch...

Ac megis y rheibiodd Pluto, Perseffone, drwy drais yr enillodd tad Culhwch ei wraig, sef llysfam ei fab.

Ar ymylon y frwydr rhwng y ddau gawr hyn y mae Culhwch ac Olwen.

Hi ydyw'r un a roes fod i Culhwch; oddi wrthi hi y cafodd yntau ei natur greddfol.

O dderbyn syniad Layard am natur Culhwch ac Arthur fel Ego a Hunan yr un person, fe ddatrysir y broblem, i raddau helaeth.

Ond mae'n rhaid wrth fam arall, llysfam neu Fam Wen, a dylanwad tadol, er mwyn galluogi Culhwch i brifio'n ddyn.

Ni sonnir amdano yn chwedl Culhwch ac Olwen ac ym Mrut Sieffre o Fynwy yr ymddengys gyntaf yng nghymeriad y bradwr a dwyllodd Arthur gan ddwyn dinistr ar y deyrnas.

I Layard, mae'r ddwy widdon yn adlewyrchu'r ddwy fam a roes fod i Culhwch ac a fabwysiadodd Culhwch, yn eu tro.

Nid person ydyw Culhwch i Layard, ond Ego, sef craidd person, sy'n gorfod mynd ar ofyn yr Hunan, sef Arthur, i'w helpu i gyflawni'r tasgau sy'n angenrheidiol er mwyn cael rhyddhad oddi wrth ddylanwadau a hualau a osodwyd arno, neu er mwyn medru dod i delerau, a dysgu cyd-fyw, â hwy.

Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.

Os mai Arthur ydyw'r Hunan, y tad-maeth ysbrydol a diwylliadol i Culhwch yr Ego, i'r gwrthwyneb, yn y pegwn arall, y mae'r Pencawr.

Mae Culhwch, yn ei lasoed, wrth geisio ymaflyd yn yr Hunan, yn symud oddi wrth ei fam(au), dan ddylanwad y tad - yr ochr fwyaf echblyg i fywyd - ac wedi iddo ymryddhau oddi wrth yr elfen famol, rhag bod yn Oidipos, yn meddiannu a phriodi'r elfen fenywaidd dderbyniol, briodol i'r Hunan, sef ei amima: Olwen.

Heb ei Olwen ni all Culhwch fod yn gyflawn; os â hi'n drech nag ef, yna fe wyrdroir ei bersonoliaeth.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.

Mae llawer o hyn yn ddigon credadwy fel dehongliad, dybiwn i, er na ddisgwylid i'r darllenydd briodoli symbolaeth o'r fath i feddwl - ymwybodol, o leiaf - awdur neu awduron Culhwch ac Olwen.

Iddo ef, nid hanes pobl neu gymeriadau o'r enw Culhwch, Olwen, Arthur, Ysbaddaden, ac ati, a geir yn y chwedl, ond hanes arwrol un enaid dynol yn prifio trwy ei lasoed i oedoliaeth gyflawn, gytbwys.

Megis yr ymostyngodd Culhwch i Arthur trwy gael ei foeli, neu dorri'i wallt, fe fu raid i Ysbaddaden dderbyn ei sbaddu'n symbolaidd.

Yn ei rhagair mae hi'n esbonio mai ceisio gweld ystyr, fel y mae'r gair hwnnw'n tarddu o'r Lladin historia, y mae Layard wrth drafod Culhwch ac Olwen.