Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

culion

culion

Nid yw wedi arfer â ffyrdd culion y Canolbarth!

Yn hytrach, safai pawb i fwyta yn ymyl byrddau culion uchel.

Dilynodd y dyrfa yr hen ŵr a'i bastwn allan o'r sgwâr, ar hyd un o'r strydoedd culion a thrwy un o'r pyrth.

"Mae yna waith i'w wneud." Dilynodd hi ar hyd y strydoedd culion, yn hanner rhedeg a hanner llithro hyd y carped gwyn.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Mae'n edrych ar nodweddion yr adeiladau ei hunain - pethau fel ffenestri bach culion, a rhai â chloriau arnynt.

Arweiniodd Marie y ffordd i fyny grisiau culion di garped, a'r lleithdra'n llifo hyd y pared noeth.

"Canu carolau wir, a Ffrainc yn gwaedu." Wrth i'r ddau gerdded hyd strydoedd cefn culion yr hen dref, roedd haen denau o eira yn sefyll dros y cerrig crynion ar ganol y ffordd ac yn prysur orchuddio toeau'r tai.

Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.

Ceir nifer o gaeau bychain o dir glas niwtral a bylchau culion rhwng eu cloddiau pridd.