Y Gwyddelod a fu'n byw yn yr ardal tuag amser Cunedda a'u cododd uwchben eu meirw.
Ym Manaw Gododdin, yn neheudir Sgotland, trigai Cunedda, swyddog pwysig dan y Rhufeiniaid.
Ond ni chafodd y Gwyddelod eu concro'n llwyr oherwydd pan aeth Dewi Sant (ac fe ddywed traddodiad ei fod ef yn ddisgynnydd i Geredig) i deithio yn Nyfed gwelodd fod elfen Wyddelig amlwg yno, yn union fel yr oedd yng Ngogledd Cymru pan ddaeth Cunedda yno ganrif ynghynt.