Nhad yn chwilio a chwilio, yna "Lle dudoch chi ma' nghrys i Jini?" Mam yn cymryd pwffiad oddi ar y pwmp oedd ganddi i'w helpu anadlu cyn ateb, "Wel, yn yr 'airing cupboard' Charles".
Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.
Yn lle yn yr airing cupboard ma'r crys Jini?" 'Roedd y llais angylaidd wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn, 'roedd nhad o dan straen fawr i beidio gweiddi.