Bydd y Llyfr Mawr y Plant newydd yn cynnwys straeon cyfarwydd (yr awduron gwreiddiol, J O Williams a Jennie Thomas) am gymeriadau bythwyrdd megis Wil Cwac Cwac a Siôocirc;n Blewyn Coch, posau hen a newydd a lluniau o'r llyfr gwreiddiol.
Mae rhai o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant wedi cael eu hanfarwoli ar deledu ers dyfodiad S4C ac mae Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch yn gyfarwydd i blant ledled y byd erbyn hyn trwy werthiant tramor y cyfresi.