Yn y cyfamser, rhaid byw yn Nhir y Cwango a gweld democratiaeth ac atebolrwydd yn chwalu'n chwilfriw o'n cwmpas, a'r gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion sylfaenol ein cymdeithas yn cael eu gwasgu o bob tu.
"Ble mae Bwrdd yr Iaith?" Erbyn hyn, saith mis ar ôl dechrau gweithio'n statudol, mae swyddogion gelynion penna'r cwango iaith yn siglo'u pennau ac awgrymu na ddylech chi ddisgwyl dim arall ond distawrwydd a diffyg gwneud.
Fydd gan y Bwrdd ddim stondin ar Faes yr Eisteddfod ac, yn ôl Eleri Carrog, sy'n dweud ei bod am weld y cwango newydd yn llwyddo, fe ddylen nhw fod yno er mwyn ateb cwestiynau a chwrdd â'r bobol.
Chwilio am olion cwango