Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwdyn

cwdyn

Y cwdyn a ddaliai lwch dannedd Berwyn y Ddraig!

Rhoddodd Caradog ei law mewn anobaith yn un o logellau ei fantell - ac ymaflyd mewn cwdyn.

Nawr 'te, y bêl am eich bywydau.' Estynnodd ei law am y cwdyn, y wên yn llydan ar ei wyneb.

Roedd yr efail a'r morthwyl a'r cwdyn o farrau haearn ar gefn y camel olaf, druan.

Camodd corrach tew ymlaen gan sefyll o fewn ychydig gamau i Henedd, a gariai'r cwdyn gwerthfawr.

Erbyn y Calan byddai pob plentyn yn cael cwdyn arian newydd a'r adeg honno roedd disgwyl i blentyn adrodd pennill neu gwpled wrth ddrws bob cartref.

Tasg Morlais oedd cario'r cwdyn gwerthfawr.

Ac roedd hynny o arian a feddai wedi'u cadw'n ddiogel mewn cwdyn lleder, main a gyd-darai'n gyson â'i geilliau wrth iddo gamu trwy'r dorf gan wthio rhwng un ceffyl a'r llall.

Tywynnai'r bêl yn ddisgleiriach wrth iddo'i chodi oddi ar ei llwyfan a'i gosod yn y cwdyn a gafodd gan Meirion Lledrith.

Ond doedd dim son am y breathalyser, neu'r cwdyn lysh chwedl Nansi yn 'Pobol y Cwm', yn y dyddiau hynny.

Melltithiodd ei gloffni ac ymdrechu i gyflymu ei gam heb ollwng ei afael ar y cwdyn.

Erbyn heddiw, tyfir llawer iawn o domatos mewn cwdyn tyfu.