Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cweir

cweir

Byddai'n well iddo fod gartre heno rhag ofn y byddai Sam Llongau yn teimlo fel rhoi cweir i'w wraig.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

Mae Bangor yn parhau ar y gwaelod ar ôl cael cweir, 4 - 0, yng Nghaerfyrddin echdoe.

A chael cweir iawn gan i gyd-dduwia am roi rhywbeth mor ddanteithiol i ddim ond mymryn o ddynoliaeth.

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Mae Tonga wedi cael y cweir mwy erioed mewn gêm bêl-droed ryngwladol.

mae'r Alban wedi cael cweir gan Northland Vikings yn gêm gyntaf eu taith yn Seland Newydd.

Cweir gartre o bedair gôl i ddim gafodd Gogledd Iwerddon gan Norwy.

"Os oes ar rywun eisio cweir, mi ro i hi iddo fo." Trois fy mhen i edrych pwy oedd wedi f'achub, ac er syndod mawr i mi, gwelais mai un o fechgyn y siwt lwyd oedd ef.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.