Ond fel merched Cwffra, ar ôl ychydig flynyddoedd o'r bywyd hwn cartrefu a bod yn wragedd hyfedr oedd eu bwriad yn y pen draw.
Merched du llachar yw gwragedd Cwffra, merched cryf, llon, ac yn eu plith ambell un dawel, feingorff, na fyddai ei symud drwy'r tŷ yn ddim amgenach na chwyth o berarogl neu dincial isel tlysau arian.
Ar eu hynt rhwng y gogledd a'r de, rhwng y werddon a'r ddinas, cyrcydu a wna merched Cwffra mewn lori agored, yng nghysgod bocsys o domatos, basgedi o ddâts gwasgedig a marsiandi%aeth o'r fath, rhag y gwynt a grafella'r croen fel rhathell wyllt.
Ni wyddai Hadad chwaith am arfer gwragedd gwerddon Cwffra o deithio i fyny i Bengasi i elwa ar eu cyrff trwy buteinio'n agored, neu gudd, fel morwynion, efallai, i Americanwr neu Brydeiniwr oedd yn byw am ysbaid heb ei wraig ac yn hoff o gwmni yn y gwely.