Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwlwm

cwlwm

Cruglwyth o dan cwlwm eirias, ac ogof goch yn ei graidd lle dywedwyd wrthi droeon yr ymgartrefai teulu'r Ddraig Goch.

Amod bodolaeth pobl grwydrol oedd cwlwm teuluoedd, ac felly 'pobl' yn yr ystyr o gymundod o deuluoedd oedd Israel.

Llacio'r cwlwm teuluaidd a wnâi mabwysiadu, ac felly nid oedd le iddo mewn cymdeithas nomadig; tynhau'r cwlwm yr oedd yr arfer gyda phriodi, ac felly rhoddid pwys mawr arno.

Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân.

Felly, wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd ymlaen - y syniadau am y dinesydd modern, buddiol neu am y genedl fel cwlwm o werthoedd yn ennill tir, gwelwn wrthdrawiad cymhleth rhyngddynt a hynny'n esgor ar nifer o batrymau addysgol yn ôl natur y wladwriaeth a datblygiad y broses foderneiddio.

Mae hyn yn torri'r cwlwm priodas, ac mae hawl gan y person di-euog i ysgaru ei gymar/chymar.

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Un bore, wrth ddihuno, gwelais golomen wen yn disgyn ar sil fy ffenestr Wrth edrych arni, meddyliais am y lleianod wrth y llyn, am fy nyweddi ac am rai eraill a oedd wedi marw, yr oedd cwlwm ysbrydol rhyngof a hwy.

Yma gwelir fod y cwlwm priodas yn un sanctaidd na ddylid ei dorri.

Un o'r rhesymau dros y cwlwm clos yma rhwng teuluoedd oedd mai crwydrol a bugeiliol oedd eu bywyd.

Beirniadwyd Stalin am esgeuluso un cwlwm hanfodol, sef y cwlwm diwylliannol, ac am gymysgu dau ffenomenon, "pobleictod" a chenedligrwydd.

"Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith tra byddo ei gŵr yn fyw." Os yw "ded¶tai% yn cyfeirio at gwlwm priodas, byddem yn disgwyl i "ou ded¶tai% (nid yn rhwym) olygu'r gwrthwyneb, sef rhyddid o'r cwlwm priodas.