Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwmpasu

cwmpasu

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

Y mae teitl cyflawn y gyfrol, Christmas Evans a'r Ymneilltuaeth Newydd yn cwmpasu thema sy'n agos at galon Dr Densil Morgan.

Mae'r cyfan yn cyfuno i roi patrwm rhesymol, enfawr, sy'n cwmpasu symudiadau gwrthrychau yn y ddaear a'r nef.

Gair sy'n cwmpasu cymaint o'r hyn sydd wrth wraidd Cymdeithas yr Iaith.

Os yw'r iaith i oroesi rhaid iddi feddu ar nifer helaeth o sefydliadau o bob math i'w chynnal, sefydliadau a fydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd ac sy'n creu rhwydweithiau cymdeithasol heb ddibynnu ar yr uned bentrefol.

Ymhlith yr adnoddau mae radio, teledu a gwefannau ar gyfer llythrennedd, rhifedd, daearyddiaeth, y cwricwlwm Cymreig, cerddoriaeth, addysg grefyddol, hanes... mae'r pynciau yn cwmpasu'r rhan fwyaf o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a mwy.

iii) Theatr mewn addysg sydd yn cwmpasu sawl un o'r elfennau creadigol a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad addysg plentyn.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Mae'r tair lefel uchaf yn rhagdybio defnydd o'r ddwy sylfaenol hyn ac yn eu cwmpasu.

mae'r Cyngor wedii fodloni bod y BBC yn gyffredinol wedi ymateb yn dda wrth ddarparu ystod o raglenni a gwasanaethau syn adlewyrchu effaith datganoli, ac syn cwmpasu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Cyngor wedi'i fodloni bod y BBC yn gyffredinol wedi ymateb yn dda wrth ddarparu ystod o raglenni a gwasanaethau sy'n adlewyrchu effaith datganoli, ac sy'n cwmpasu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.