Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i fwa mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.
'Mae hi wedi mynd y tu ôl i'r cwmwl mawr yna,' atebodd Carol, gan ychwanegu'n galonogol, 'efallai y daw hi'n ôl i'r golwg yn y munud.'
Apelia at y gorffennol anailadroddadwy, a 'trac hanes', gan dderbyn disgrifiad Waldo Williams o'r genedl - 'Cadw tŷ mewn cwmwl tystion'.
Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.
Cetyn oedd gan un o hogiau'r eroplêns ac o dro i dro, cawn olwg ar ddwy ferch y tonnau pan ddigwyddai toriad yn y cwmwl nicotinaidd.
Daeth cwmwl o dristwch dros y gymdogaeth pan fu Mr Huw Williams, Pencoed farw ac yntau ar ei wyliau gyda'i deulu yn Creta.
Cynllun y cyfansoddi sy'n rheoli: llinell letraws cwmwl yn cyd-bwyso â llinell letraws y graig ac yn tywys y llygaid ar lwybr igam-ogam trwy ofod y darlun at y bobol yn y blaendir.
Mi fydda i yn 'i deimlo fo weithia fel cwmwl du yn bygwth fy mygu.
Holltasai cwmwl glaw yn y prynhawn, ac yr oedd y glaw wedi disgyn yn genllif ar y ty nes cuddio llawr yr adeilad â llaid hyd at y migwrn.
Mae 'Gyda'r Nos Ar O^l Glaw' yn enghraifft ardderchog: yr awyr a'r tir, heb bobl nac adeilad yn y golwg, yn llawn symud ac awyrgylch; yr haul yn torri trwy dduwch cwmwl sydd fel talp o fynydd ar y gorwel.
Er bod y cwmwl 'ma sy' wedi goddiweddyd Teulu Nanhoron yn taflu 'i esgyll droston ni i gyd.' Am foment ciliodd y sirioldeb o wyneb yr offeiriad.
Roedd o fel cwmwl du yn hofran yn y pellter, nid yn union yn y ffurfafen uwch ei ben ond ar y gorwel.
Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.
Er mai pedair o ganeuon a geir ar EP gan amlaf, mae Gwacamoli yn amlwg yn teimlo'n hael, gan fod yna bump ar Clockwork; ac yn sicr mae hynny'n beth da, gan mai Cwmwl 9 ydi'r gân orau ar yr EP yma heb unrhyw amheuaeth.
Canys yn y fan yr ysgarwyd rhwng ein gofod a'n gorffennol yr erthylwyd ein cenedligrwydd ac nid ydyw dwyn pobl yn ôl i ŵydd eu cwmwl tystion yn dasg amhosibl .
Ond roedd yna odreuon arian i'r cwmwl hwnnw oherwydd, yn ôl yr wybodaeth a ddaeth i Blas Nanhoron, roedd Capten Timothy Edwards yn hwylio adref ar fwrdd yr Actaeon ac i gyrraedd Prydain at ddiwedd Awst.
"O ble'r ydych yn dod?" Pan atebais, "O'r Rhyl", disgynnodd cwmwl tosturiol tros eu hwynebau.
'Llunnir rhannau sylfaenol o'n bywyd gan ddylanwad y cwmwl tystion, a aeth o'n blaen arnom,' medd Peate yn Rhwng Dau Fyd; tystia'r hunangofiant trwyddo, serch hynny, i ddylanwad mwy cyrhaeddbell ac arhosol dynion byw y daeth i'w hadnabod yn bersonol.
Yn union fel Nicole ar EP newydd Big Leaves mae Cwmwl 9 yn ddiweddglo gwefreiddiol i unrhyw CD.
Mewn cwmwl tystion.
y cwmwl du, a'i dilynai i bobman.