Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, cenedlaetholwyr Cwrdaidd a'u cefnogwyr yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth Llafur Llundain a'i bwriad i roi cymorth economaidd i wladwriaeth Twrci adeiladu argae a fydd yn golygu boddi ugeiniau o bentrefi Cwrdaidd.
Bwriad llywodaeth Twrci yw codi argae hydro-electrig Ilusu ar afon Tigris ryw 75km o'r ffin â Syria ac Irác, sef cadarnle'r diwylliant Cwrdaidd.