Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwsg

cwsg

Eto, ni ddaeth cwsg.

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

Er nad yw Dyfrig yn ...gallu meddwl yn glir ai ben mewn anialdir maen syndod fod ei lais cystal efor dolur gwddw - dyma lais Dyfrig ar ei orau gyda harmoneiddio cryf a melodi swynol dros ben - cynnyrch yn amlwg o'r un ffatri a Cwsg Gerdded.

.' 'Tyd yn d'ôl 'fory.' Chwifiodd ei law mewn ffarwe/ l, ar fin boddi eto yn nyfroedd cwsg.

Syrthiodd i mewn i'w gwely, ond gwyddai fod cwsg heno yn bell iawn oddi wrthi.

Yn ol yr Athro, 'Dangosir diffyg cysondeb prydyddol Elphin a gwendid ei ddychymyg yn y chwechawd uchod lle y mae'r gair "adennydd" yn y llinell olaf yr un mor amlwg yn dynodi, yn y cyd-destun, ddifodiant.' Awgrymwn i, serch hynny, fod y gair olaf 'hwy' yn bwysleisiol ac yn gyferbyniol, bod 'aden' ddifodol Cwsg ac Angau, a bod y newid o'r naill i'r llall yn eironig arwyddocaol.

A'r nos a'i lluoedd ser a'i lleddfol si, Ei gwlith a'i haden lwyd a'i dwyfol daw, Ni chawn i weini a'i heneidiol glwy; Ond gwyllt ymwibiai rheswm yma a thraw Drwy'r cread mawr a thrwy'r diddymdra mwy, Nes dyfod Cwsg ac Angau law yn llaw, I'm hudo dan eu du adennydd hwy.

Maent hwythau, pan yw'r ffurfafen a'r ddaear fel petai'r ddwy yn eu cwsg olaf, ac yn llwydo, yn cael eu gorfodi i hofran neu stelcian ymhell o gyffiniau'r ynysoedd amddifad.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Y noson honno, roedd y cinio'n y gwesty yn ofnadwy a gan nad oedd yr apres sgio yn rhyw ysbrydoledig iawn - gwely'n gynnar amdani i drio gwneud i fyny am ddiffyg cwsg y noson gynt.

Pan ddaw cwsg i gau'm hamrannau Crwydra'm hysbryd dros y bryn, Hoffa ddianc at y blodau Dyf o bobtu Pont y Glyn.

Y noson honno cafodd Gwaethfoed a Morfudd lety gyda chawr o'r enw Carwed Feudwy wrth odre Rhiw Garwedd ond pan geisiodd y cawr lofruddio'r ddau yn eu cwsg fe laddodd Gwaethfoed hwnnw hefyd.

A sawl gwaith yn y ffilm dywedir wrthym - rhag ofn na wnaethon ni ddeall y tro cyntaf - mai'r hyn a wnaeth y Siapaneaid wrth fomio Pearl Harbour oedd deffro cawr cwsg y byddai ei ddialedd yn awr yn erchyll.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

.!" Defnyddiodd ei bys bach wedyn i durio'r Huwcyn Cwsg o gil ei llygaid.

'Roedd y Cripil wrth ei draed yng ngafaelion cwsg.

o ran hynny, pan fydd dynion yn sefyll dros eu hawliau, fydd dim rhaid iddynt guddio?" "Fedrwn ni'n dau ddim fforddio gwneud hynny, Elystan achos fyddai yna neb ar ôl i gynllwynio wedyn." Erbyn hyn 'roedd cwsg yn trechu Gwgon.

Nawr petai Mam wedi edrych yn y llyfrau meddygol yn y llyfrgell, neu wedi meddwl am ddau funud, hyd yn oed, mi fyddai hi wedi sylweddoli nad ydi pobl, na phlant, ddim yn gallu tisian yn eu cwsg.