Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwyd

cwyd

Cwyd y dyryswch o ddau ddiffyg, methu â gweld y gall cenedlaetholdeb fod yn dangnefeddus a methu â sylweddoli rhywbeth a ddylai fod yr un mor amlwg, sef fod gwahanol fathau o genedlgarwch yn bod ymhlith yr Iddewon y pryd hynny megis ymhob cenedl ymhob oes.

"Cwyd dy galon...ma'r môr yn berwi o bysgod.'

Cwyd y ddau dwr ar y penrhynau i'n hatgoffa fod creigiau fel dannedd draig yn barod i rwygo llongau'n grybibion.

Cyn it i gael amser i ymddiheuro, i esbonio nac i raffu celwyddau, cwyd yr hen ŵr ei fraich â'i law agored tuag atat.

A draw dros y mor a'r Fenai cwyd mynyddoedd gwarcheidiol o'r Eifl heibio'r Wyddfa a'r Carneddau tua Penmaenmawr.

Fel y gwyddom yn dda man mae nwydd yn prinhau cyfyd ei bris nes weithiau ei wneud yn brin, neu os parheir i'w ddefnyddio cwyd pris y nwyddau y mae'n rhan ohono tu hwnt i'r hyn mae'r cwmseriaid yn fodlon dalu.

Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).

Cwyd hyn o'r hen ddywediad: "Pan fo'r ddraenen ddu yn wych, hau dy had os bydd yn sych.