Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwympo

cwympo

Wedi camu drwy'r drws yn y wal goncrid-flocs, neu'n hytrach drwy'r agendor lle buasai, gan ei fod wedi cwympo ar ei ben i'r llaid yng ngenau'r twnnel, tynnwyd llun arall o Eluned a minnau - y tro hwn, yn fwy llwyddiannus, ar gamera wincad llygad llo David Lewis, sy'n dangos yn amlwg ein bod yn falch o'n gorchest yn dwyn y cerdyn.

'Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe wythnos ynghynt.

Mae'n rhaid, wrth gwrs, cofnodi'r goleuni sy'n cwympo ar ddrych y telesgopau hyn.

Trodd Douglas i'r chwith a gwelodd y gelyn yn cwympo fel carreg i'r ddaear.

Siawns na fydd rhywun wedi 'nghlywed yn taro'r môr." Ond roedd rhuo'r propelor wrth gorddi'r tonnau wedi boddi ei sŵn yn cwympo o'r British Monarch.

Ambell flwyddyn yr ydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael stoncar o goeden syn edrych fel pe byddai wedi gallu byw tan yr haf! Y llynedd, wedyn, yr oedd hi'n geoden drychinebus gyda nodwyddi yn cwympo ym mhob man.

Mae yna ryw ychydig o geffylau trymach yn cael eu defnyddio ynglŷn â choedwigaeth yn llusgo'r coed wedi i'r rheini gael eu cwympo a'u torri.

Yn fynych, bydd y person wedi cwympo ganol nos yn y toiled ac wedi torri asgwrn ei goes neu ei fraich.

TELEDU: Ac i ddiweddu - rhagor o newyddion drwg am yr economi gyda'r bunt yn cwympo yn sylweddol yn erbyn arian gwledydd eraill.

Da y cofiaf Jim yn cwympo yn ei hyd wrth gario cydaid o lo ar ei gefn ac yn addo "medal fel plat cino Dydd Sul" i'm ffrind a finne am helpu i glirio'r llanast.

Dangosodd Darren ddiddordeb mawr ynddi ond cwympo mewn cariad gyda Madog, nai Iori, wnaeth Emma.

Er iddynt balfalu ymysg y brigau yn debycach i ditw nac i golomen, cwympo o'r grib i'r gwter oedd hanes sawl un, o flaen y cerbydau didostur ar y ffordd gyfagos.

Rhwng y cwt mochyn a'r gors mae boncyff un o'r coed llwyfen gafodd eu cwympo, ac y mae brigau bach newydd iraidd wedi tyfu o'i ochrau yn deilio bob blwyddyn.